Fel rhan anhepgor o seilwaith trafnidiaeth yng Nghymru mae’n hanfodol fod y Maes Awyr yn parhau’n agored ar gyfer teithio a symudiadau awyr dilys, fel rydym wedi’i wneud drwy gydol y pandemig, gan ddilyn yn fanwl ganllawiau a ddarparwyd gan yr awdurdodau perthnasol.
Os oes unrhyw gwsmer na all hedfan bellach byddwn yn parhau i ad-dalu costau parcio ceir a’r lolfa foethus a archebwyd yn uniongyrchol ar wefan Maes Awyr Caerdydd. Ar gyfer unrhyw ymholiadau ynglŷn â theithiau hedfan a gwyliau dylai cwsmeriaid gysylltu â’r cwmni hedfan, gweithredwr teithiau neu asiant teithio.
Cyngor i deithwyrEin nod ym Maes Awyr Caerdydd yw creu profiad pleserus a di-straen. Edrychwch ar rai o'r cyfleusterau a'r gwasanaethau sydd ar gael i'ch helpu i symud o gwmpas y derfynfa...