Prynu arian tramor
Gallwch gyfnewid arian tramor yn hawdd yn y Maes Awyr gyda Fourex. Gallwch brynu Ewros a doleri’r Unol Daleithiau, a newid amrywiaeth eang o arian i bunnoedd y DU yn y cabanau pwrpasol, sydd ar gael yn y neuaddau Ymadael a Chyrraedd fel ei gilydd. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
Peiriannau arian parod
Mae peiriannau ATM ar gael yn y Neuadd Gyrraedd, Lolfa Ymadael, ac ar lawr cyntaf y derfynfa gyferbyn â Café Cwtch. Cewch ei defnyddio’n rhad ac am ddim ac maent yn cynnig punnoedd y DU, Ewros a doleri’r Unol Daleithiau.