Awydd mwynhau diod a thamaid i'w fwyta wrth wylio'r awyrennau’n cyrraedd y maes awyr?
Mae'r bar hwn yn ddelfrydol i'r rhai sydd eisiau diod sydyn cyn hedfan, pryd bwyd swmpus neu damaid ysgafn mewn awyrgylch hwyliog a hamddenol gyda phopeth, yn cynnwys y gerddoriaeth ddiweddaraf yn cael ei gynnig.
Mwynhewch goffi neu frecwast neu ginio yn ein Costa Coffe newydd. Mae wedi’i leoli yn y lolfa ymadael ac yn cynnig dewis o ddiodydd poeth ac oer yn ogystal â dewis o fwyd blasus!
Ydych chi angen hwb o gaffein neu damaid i’ch cynnal ar eich taith? Mae Costa wedi’i leoli yn y neuadd gyrraedd ac yn cynnig dewis o ddiodydd poeth ac oer yn ogystal â dewis o fwyd blasus!
Ewch i ymweld â Chaffi Cwtch ble rydych yn sicr o gael croeso cynnes Cymreig!
Mae ein café newydd yn ddelfrydol ar gyfer snac a phaned mewn awyrgylch cyfforddus, ymlaciol.
Ar frys? Gallwch hefyd fwynhau tamaid i'w fwyta yn eich llaw!
Cyfleusterau ar gyfer bwydo babanod
Gellir hefyd prynu bwyd ar gyfer babanod a chynhesu bwyd babanod yn Caffi Cwtch.