Cardiff Airport Education Programme

Ym Maes Awyr Caerdydd rydym yn ymwybodol o bwysigrwydd ein swyddogaeth o fewn y gymuned.

Yn unol â’n cyfrifoldeb i wasanaethu ein cymuned leol rydym yn cynnig cyfres o raglenni addysgol sy’n gysylltiedig â chyfnodau allweddol cwricwlwm cenedlaethol y DU ac sy’n eu hategu. Mae’r ymweliadau hyn wedi’u llunio ar gyfer, ac wedi’u hanelu at ddosbarthiadau ysgol i blant rhwng 5 a 15 mlwydd oed, grwpiau allgyrsiol a chlybiau cymunedol eraill.

Ynglŷn â Maes Awyr Caerdydd

Ers i Lywodraeth Cymru ei brynu yn 2014, bu Maes Awyr Caerdydd ar daith gyson o drawsnewid; gwnaed gwelliannau i seilwaith y derfynfa a phrofiad y cwsmer yn ogystal â chyflwyno cwmnïau hedfan newydd, llwybrau newydd a dewis ehangach i’n cwsmeriaid. Mae’r Maes Awyr yn awr yn croesawu dros 1.4 miliwn teithiwr bob blwyddyn ac mae’n cyflogi 250 o staff yn uniongyrchol mewn sawl maes arbenigol yn cynnwys: Cyllid a gweinyddiaeth, Diogelwch, Peirianneg, Gweithrediadau Maes Awyr, ADIA (QSHE), cymorth i Deithwyr â Gallu Cyfyngedig i Symud (PRM) a Diogelwch Tân.

Rheoli Risg

Bydd pob ymweliad yn cael ei arwain gan aelod o dîm y maes awyr, sydd oll wedi cael gwiriad CRB fel rhan o anghenion diogelwch eu cyflogaeth. Disgwylir i bob grŵp gael y nifer priodol o oedolion i’w hebrwng.

Mae Maes Awyr Caerdydd wedi cynnal asesiad risg ar gyfer pob rhan o’r ymweliad, ac felly’r bwriad yw y bydd hwnnw’n ategu eich asesiad risg chi ac nid yn disodli eich Deddfwriaeth iechyd a diogelwch chi.

Adnoddau Addysgu

Rydym yn darparu cyfres o adnoddau ar-lein ar gyfer athrawon a disgyblion. Cafodd yr adnoddau hyn eu datblygu mewn partneriaeth ag athrawon er mwyn pontio rhwng gweithrediadau’r maes awyr a phynciau cyfnod allweddol y cwricwlwm cenedlaethol yn cynnwys Saesneg, Dinasyddiaeth, Daearyddiaeth, Hanes, Mathemateg, Gwyddoniaeth a phynciau’n ymwneud â Busnes.

 

Cliciwch yma

Archebwch ymweliad

Ewch i’n tudalen benodedig i archebu eich ymweliad, ewch i Simplybook

Os oes gennych unrhyw ymholiad neu os oes angen gwybodaeth ychwanegol arnoch byddwch cystal â chysylltu â Marie Boxall, Cydgysylltydd Hyfforddiant y Maes Awyr, e-bost marie.boxall@cwl.aero

Cyrraedd y Maes Awyr

Cliciwch yma

Diolch arbennig

Mae Maes Awyr Caerdydd yn cydnabod yn ddiolchgar gefnogaeth Ian Timbrell o Ysgol Santes Gwladys, Bargoed, am ei gymorth yn datblygu’r Rhaglen Ysgolion hon ynghyd ag un ar ddeg ysgol Cymunedau yn Gyntaf arall.

Telerau ac Amodau

- Cyfyngir ar fwyafswm nifer y disgyblion ar unrhyw ymweliad i 30.

- Bydd angen i ddisgyblion ddod â phecynnau bwyd a lluniaeth

- Bydd pob grŵp yn gyfrifol am gostau teithio i’r Maes Awyr ac oddi yno

- Ni chodir tâl am barcio cerbydau os fyddant wedi parcio yn yr ardal ddynodedig - fel arall bydd y tâl parcio arferol yn gymwys (Bydd modd i chi ollwng plant o flaen y derfynfa a pharcio yn y Maes Parcio Arhosiad Hir). Bydd angen rhif cofrestru’r cerbyd o flaen llaw.

- Mae’n bosibl y bydd rhaglen y dydd yn cael ei newid, ei chanslo neu ei chwtogi ar fyr rybudd pe byddai gofynion gweithredol annisgwyl yn codi ac ni fydd y maes awyr yn gyfrifol am unrhyw golledion

- Mae hefyd yn bosibl na fydd modd gwylio awyrennau’n codi a glanio os na fydd y tywydd yn caniatáu

- Er bod y Maes Awyr yn dymuno darparu ar gyfer cymaint o ysgolion a grwpiau â phosibl, cyfyngir ar nifer yr ymweliadau oherwydd y gofynion ar amser y staff a gofynion gweithredol y Maes Awyr. O ganlyniad, bydd yr ymweliadau ar gael ar sail y cyntaf i’r felin

- Bydd cyfleoedd i dynnu lluniau ond mewn rhai ardaloedd yn y Maes Awyr mae cyfyngiadau mewn grym am resymau diogelwch. Byddwch yn derbyn cyngor yn unol â hynny

- Ni fydd Maes Awyr Caerdydd yn defnyddio lluniau o ddisgyblion yn ei gyhoeddusrwydd nac mewn unrhyw ddeunydd arall heb gael awdurdod gan yr ysgol berthnasol. Gofynnir i athrawon, hebryngwyr neu warcheidwaid arwyddo ffurflen hawlildio ar ran y grŵp

- Mae’r Maes Awyr yn darparu ar gyfer anghenion teithwyr gydag anableddau ac, o ganlyniad, yn darparu cefnogaeth yn ôl yr angen. O ganlyniad, fe wnawn ein gorau i ddarparu ar gyfer anghenion penodol disgyblion ond byddwch cystal â nodi nad yw hyn yn cynnwys unrhyw anghenion meddygol. Mae croeso i gŵn cymorth yn y Maes Awyr.

- Mae Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus y Maes Awyr yn gwarchod ymweliadau addysgol.

 

10

Mai

Newyddion Diweddaraf:

Cardiff Airport calls for APD to be devolved Arrow

Cardiff Airport has reinforced its position on the matter – calling for the tax to be devolved and then reduced or abolished.

10

Mai

Newyddion Diweddaraf:

Cardiff Airport calls for APD to be devolved Arrow

Cardiff Airport has reinforced its position on the matter – calling for the tax to be devolved and then reduced or abolished.

7

Mai

Newyddion Diweddaraf:

Qatar Airways celebrates First Anniversary at Cardiff Airport Arrow

Since launching in May 2018, Qatar Airways has connected passengers in Wales and the South West to over 160 destinations worldwide.

3

Mai

Newyddion Diweddaraf:

Cardiff Airport reaches 1.6 million passengers Arrow

The end of April 2019 marked an important milestone for Wales’ national airport in terms of passenger growth.

1

Mai

Newyddion Diweddaraf:

New TUI flights and holidays take off from Cardiff Airport Arrow

Flights to Croatia, Egypt and Italy Summer 2020 holidays also on sale ...

29

Ebr

Newyddion Diweddaraf:

Roger Lewis announces plan to step down as Chairman of Cardiff Airport Arrow

Chairman to step down on 31st October 2019.

25

Ebr

Newyddion Diweddaraf:

Cardiff Airport maintains British Standard for Environmental Management Arrow

Four years in a row...

18

Ebr

Newyddion Diweddaraf:

Flybe gears up for a busy Easter at Cardiff Arrow

Operating 122 flights over extended six-day weekend 14 routes in total Busiest routes include Dublin and Edinburgh ...

17

Ebr

Newyddion Diweddaraf:

Continued passenger growth at Cardiff Airport Arrow

In what has been an exciting twelve months at Wales’ national airport, the 2018/19 financial year has ended with a 7% increase in passenger ...

12

Ebr

Newyddion Diweddaraf:

An Egg-cellent Easter Holidays at Cardiff Airport Arrow

As school prepare to break up for Easter Holidays in Wales, Cardiff Airport is preparing to welcome over 61,000 egg-cited customers - 15%* more ...

Arrow
Arrow