Mae gan Faes Awyr Caerdydd uned gargo sefydledig, sydd ag arbennigedd broffesiynol a gwybodaeth lawn am y diwydiant Cargo.
Mae adnoddau technolegol modern megis cysylltiadau cyfrifiadurol â’r unedau Cyllid a Thollau a chwmnïau awyrennau rhyngwladol, yn golygu fod nwyddau’n cael eu trosglwyddo’n gyflym i wledydd ledled y byd.
Gwasanaethau
Mae’r gwasanaethau cargo sydd ar gael yn cynnwys:
- Gwasanaeth Mewnforio/Allforio llawn
- Trosglwyddo nwyddau yn defnyddio’r Awyr/Môr/Ffordd, gan arbennigo yn y diwydiannau Fferyllol, Tecstiliau, Modurol ac Awyrennau
- IATA uniongyrchol/Llwythau Cyfunol/Llwythau Cyflawn/LCL/ôl-gerbyd ar gefn lori
- Cyfleusterau warws a Thollau Tramor a Chartref ar y safle, yn galluogi i nwyddau gael eu cludo'n gyflym
- Modd olrhain taith y nwyddau ledled y byd
Mae’r cwmnïau cargo awyr yn cynnig cysylltiad dydd/nos rhwng De Cymru a Heathrow, Llundain. Mae gwasanaeth cyflawn o ddrws i ddrws, o’r drws i’r maes awyr, o faes awyr i’r drws ac o faes awyr i faes awyr ar gael.
Mae’r gwasanaethau canlynol ar gael:
- Cadw nwyddau yn y warws
- Cadw nwyddau sy’n mynd trwy’r tollau, a nwyddau nad ydynt yn cael eu cludo i wledydd tramor sydd ddim angen mynd trwy’r tollau
- Cadw nwyddau am gyfnodau hir neu am gyfnodau byr
- Gwasanaeth sy’n cynnig trefnu’r nwyddau sy’n cyrraedd a’u danfon i wahanol leoliadau ar gael
- Cysylltiad cyfrifiadurol EDI llawn ar gael
Offer ac ymdriniaeth
Mae gan Faes Awyr Caerdydd y gwasanaethau canlynol:
- Staff ar gael 24 awr y dydd i ymdrin â’r nwyddau
- Llwytho a dadlwytho nwyddau oddi ar drolïau
- Llwytho/dadlwytho nwyddau oddi ar drolïau Llongau
- Wagen sy’n gallu cario hyd at 10 Tunnell
- Mynedfa sy’n caniatáu defnydd llawn o offer y mae’n rhaid mynd drwy’r System Ddiogelwch i’w cyrraedd fel rheol
- Gwasanaethau Cysylltu/FFM/FSU
- Codio bar
- Gwasanaeth ymdrin â nwyddau peryglus IATA/ICAO
Cwmniau Cargo
TransGlobal Freight Management Ltd.
Office 6, Cargo terminal
Cardiff Airport, Vale of Glamorgan
CF62 3BD
United Kingdom
Tel: +44 1446 728 235
Web: www.tgfml.com
Raven Express Logistics
Unit 1 Cardiff Airport Business Park
Cardiff Airport
Vale of Glamorgan
CF62 3BD
Telephone: +44 1446 711488
Fax: +44 1446 711848