Cofestru

 

Os ydych yn hedfan ar daith pellter byr neu hir, mae ffactorau pwysig y dylech eu hystyried cyn i chi gyrraedd y Maes Awyr, i sicrhau eich bod yn cael profiad heb straen. Mae cyngor hwylus i chi isod:

Faint o amser ddylwn i ganiatáu i gofrestru?

Ar gyfer teithiau pellter byr (tua phedair awr neu lai ar draws y DU ac Ewrop), rydym yn argymell y dylech gyrraedd o leiaf 2 awr* cyn yr amser ymadael a drefnwyd i ganiatáu digon o amser i gofrestru ar gyfer eich taith, i ollwng eich bagiau sy’n mynd i’r howld ac i fynd trwy ardal ddiogelwch y Maes Awyr cyn anelu am yr ardal Ymadael i fwynhau ein cyfleusterau.
Dylech sylwi fod gan bob cwmni hedfan ei argymhellion ei hun felly gwiriwch gyda’ch cwmni hedfan cyn y daith.

Os ydych yn teithio ar daith pellter hir neu’n mynd ar daith gyswllt o Gaerdydd drwy un o’n cyrchfannau canolog dylech sicrhau eich bod yn cyrraedd o leiaf bedair awr cyn yr amser ymadael a drefnwyd. Mae hyn yn arbennig o bwysig wrth deithio ar deithiau hirach gan fod y broses gofrestru ac archwiliad diogelwch yn debygol gymryd mwy o amser.  Yn ystod yr oriau brys rydym yn eich cynghori i ganiatáu amser ychwanegol ar gyfer oedi ar y ffyrdd a pharcio eich cerbyd. Mae Maes Awyr Caerdydd yn cynnig gwasanaeth parcio Cwrdd a Chyfarch er mwyn i chi allu gollwng eich cerbyd ac anelu’n syth am y derfynfa, i rag-archebu’r gwasanaeth hwn cliciwch  yma:

Rydym yn ymdrechu i wneud eich taith drwy’r Maes Awyr mor hwylus ag sydd yn bosibl, er hynny ar adegau prysur mae’n bosibl y bydd cofrestru ac archwiliad diogelwch yn cymryd mwy o amser. Dilynwch y canllawiau canlynol i wneud eich taith mor gyflym â phosibl.

 

Beth yw’r broses gofrestru?

Cofrestru ar-lein

Mae llawer o’n cwmnïau hedfan yn cynnig y dewis i gofrestru ar-lein. Dylech fynd i wefan eich cwmni hedfan ychydig o ddyddiau cyn hedfan i gael mwy o gyngor.  Yn syml, cofrestrwch ar-lein cyn eich taith hedfan, argraffwch bob cerdyn byrddio ar eich archeb a sicrhewch eich bod yn dod â’r ddogfen adnabod angenrheidiol. Ar ddiwrnod y daith hedfan cewch ollwng unrhyw fagiau sy’n mynd i’r howld yn y neuadd gofrestru, neu os mai bag llaw yn unig sydd gennych ewch yn syth i ardal ddiogelwch y Maes Awyr gyda’ch cerdyn byrddio a dogfen adnabod.

Cofrestru yn y Maes Awyr

Mae’r neuadd gofrestru i’w gweld yn union ar ôl i chi fynd drwy brif fynedfa’r Maes Awyr. Wrth gyrraedd dylech nodi lleoliad y ddesg gofrestru berthnasol i chi, sy’n cael ei nodi ar y sgrin uwchben bob desg. Mae aelodau staff wrth law i gynghori os fydd angen cymorth arnoch. Pan fyddwch yn cael eich galw i ddod ymlaen dylech gyflwyno cadarnhad o’ch taith hedfan a dull adnabod dilys. Gofynnir i chi bwyso pob bag llaw a phob bag sydd i fynd i’r howld ar y glorian cyn cofrestru pob eitem.

Pwysig: Mae’n angenrheidiol i chi sicrhau fod unrhyw fag yn glynu at bolisi terfyn pwysau caeth eich cwmni hedfan a’ch bod yn rhybuddio’r cwmni hedfan ymlaen llaw os ydych yn bwriadu teithio gydag eitem sy’n drymach neu’n fwy na’r disgwyl. Gall unrhyw anghysonder olygu costau ychwanegol, achosi oedi ac effeithio’n ddifrifol ar y broses gofrestru. Am gyngor ac arweiniad cliciwch yma https://www.cardiff-airport.com/airport-security/

Os mai bag llaw yn unig fydd gennych, sicrhewch hefyd fod hwn yn unol â chyfyngiadau’r cwmni hedfan, gan y bydd tâl efallai yn cael ei godi arnoch os fydd eich bag yn fwy na’r disgwyl. Mae cyfyngiadau bagiau pob cwmni hedfan yn wahanol felly gwiriwch y wybodaeth benodol gyda nhw ymlaen llaw.

Beth gaf i gludo yn fy mag llaw?

Mae rheolau mewn grym wrth fynd ag eitemau drwy’r broses archwilio yn ardal ddiogelwch y Maes Awyr, yn cynnwys rhai meddyginiaethau, hylifau, geliau, pastau a phowdrau. Ewch i dudalen Diogelwch y Maes Awyr i weld yr holl arweiniad a chyngor sydd ei angen i sicrhau proses archwilio diogelwch hwylus.

Mae bwyd babanod a llaeth babanod yn cael eu hystyried yn eitemau hanfodol ac felly cewch fynd â rhain mewn cynwysyddion 100 ml neu fwy yn eich bag llaw. Dylech nodi efallai y bydd angen i ni, ar rai adegau, sgrinio’r eitem cyn caniatáu iddo fynd drwodd. Yn ogystal mae modd prynu bwyd babanod a llaeth babanod yn siop W H Smith yn y neuadd Ymadael.

Rhaid datgan ymlaen llaw symiau mawr o arian parod ac arian tramor cyn teithio drwy’r Maes Awyr. Ewch i  https://www.gov.uk/bringing-cash-into-uk i gael arweiniad.

 

5

Mai

Newyddion Diweddaraf:

The incoming Chair of Cardiff Airport is confirmed Arrow

Cardiff Airport has confirmed its next Chair will be Wayne Harvey, Senior Managing Partner for Deloitte in Wales.

1

Mai

Newyddion Diweddaraf:

Half a million more vital fluid resistant gowns land at Cardiff Airport Arrow

Half a million more vital fluid resistant gowns land at Cardiff Airport – 14.15, 1 May...

30

Ebr

Newyddion Diweddaraf:

Cardiff Airport firefighters provide support to the Dragon’s Heart Hospital in Cardiff Arrow

Cardiff Airport firefighters provide support to the Dragon’s Heart Hospital in Cardiff...

28

Ebr

Newyddion Diweddaraf:

Cardiff Airport welcomes PPE freight for Welsh NHS Arrow

Cardiff Airport welcomes PPE freight for Welsh NHS...

24

Ebr

Newyddion Diweddaraf:

Cardiff Airport announces support for local community projects Arrow

Cardiff Airport announces support for local community projects...

14

Ebr

Newyddion Diweddaraf:

NATS takes over air traffic control at St Athan Airport Arrow

NATS takes over air traffic control at St Athan Airport...

12

Maw

Newyddion Diweddaraf:

Recycling, upcycling and cycling! Cardiff Airport delivering the Environmental Flight Path Arrow

Cardiff Airport delivering the Environmental Flight Path...

8

Maw

Newyddion Diweddaraf:

Eastern Airways still operating and now bookable Arrow

Eastern Airways, which operates flights from Cardiff Airport, now has its scheduled routes on sale and are bookable through its own website – www.

5

Maw

Newyddion Diweddaraf:

Flybe - Cardiff Airport statement Arrow

Flybe has ceased trading and all future flights from the UK are cancelled...

5

Maw

Newyddion Diweddaraf:

Loganair steps in to operate Edinburgh/Cardiff service after Flybe collapse Arrow

Loganair has announced a daily service between Cardiff and Edinburgh, launching on 23 March, with plans to increase frequency to 10 flights a week ...

Arrow
Arrow