Os ydych yn casglu rhywun yn y maes awyr gallwn eich sicrhau bod yna ddigon o arwyddion fydd yn eich cyfeirio i'r mannau gollwng a chasglu pan fyddwch yn cyrraedd y maes awyr.

Mae’r dewisiadau canlynol ar gael:

£1 am 20 munud i gasglu teithwyr yn y maes parcio Arhosiad Byr, sy’n agos at y derfynfa.

Efallai y byddwch yn dymuno ystyried defnyddio Arhosiad Hir 1, ble gallwch barcio am 20 munud am ddim.

Os byddwch yn parcio yn Arhosiad Hir 1, gallwch gerdded o fewn dim neu ddefnyddio'r bws wennol am ddim i gyrraedd y derfynfa, a gellir talu yn y neuadd gyrraedd neu yn y peiriant talu yn y maes parcio.

Hefyd, mae yna gerbyd cymorth arbennig ar gael i deithwyr â symudedd cyfyngedig.

Ar ôl 20 munud codir tâl am barcio.

Arrow
Arrow