Pobl a Diwylliant

Rydym ni eisiau i’n maes awyr fod yn addas ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol yng Nghymru.  

Rydym yn awyddus i chi gymryd rhan yn awr, er mwyn bod yn y safle gorau i ddeall eich anghenion ar hyn o bryd a’ch dyheadau ar gyfer y dyfodol.

Byddwn yn amlygu, asesu ac yn ystyried holl effeithiau perthnasol ein cynlluniau ar gymunedau lleol yn ofalus. Rydym yn cydnabod efallai y bydd pryderon ynghylch ystyr ein cynigion ar gyfer rhai trigolion lleol yn y dyfodol. Ar hyn o bryd, nid ydym yn bwriadu caffael unrhyw eiddo i gyflwyno ein cynlluniau, ac eithrio rhywfaint o dir yr ydym eisoes wedi dechrau trafod gyda’r perchnogion tir perthnasol.

Pan fyddwn yn cytuno ar ein Uwchgynllun a’i gyhoeddi, byddwn yn ceisio ei gyflwyno yn unol â’r prosesau statudol priodol, er enghraifft, gyda cheisiadau cynllunio ar gyfer cynigion datblygu. Gan gydweithio gyda Chyngor Bro Morgannwg a Llywodraeth Cymru, byddwn yn gweithio mewn ffordd agored ac onest i rannu ein cynigion manwl a’r asesiadau cysylltiedig gyda chi fel bod modd i chi ffurfio barn gytbwys am yr hyn rydym yn bwriadu ei wneud ym Maes Awyr Caerdydd.   

Rydym yn credu bod maes awyr llwyddiannus yn bwysig wrth gysylltu pobl â lleoliadau ymwelwyr allweddol, gan gynnwys cyrchfannau twristiaeth, hamdden, diwylliant ac adloniant.

Felly, rydym yn bwriadu cydweithio gyda Chroeso Cymru i helpu i hyrwyddo asedau diwylliannol Cymru, er mwyn ei gwneud yn lle haws a mwy deniadol i ymweld â hi.  

Busnes a’r Economi

Nod ein cynigion yw gwneud Maes Awyr Caerdydd yn fwy cystadleuol a deniadol ar gyfer pobl Cymru, de-orllewin Lloegr a thu hwnt. Trwy ymgysylltu â theithwyr presennol a rhai posibl, ein bwriad yw helpu i lywio ein cynllunio ar gyfer dyfodol y Maes Awyr i gynyddu ei ddefnydd a’i werth i Gymru.

Rydym eisiau gweld y Maes Awyr yn borth pwysig yn y DU i feysydd teithio a masnach ryngwladol. Felly, ein bwriad yw cyflwyno strategaeth defnydd tir i gynorthwyo prif swyddogaeth hedfanaeth a chysylltedd y Maes Awyr, a’i ddefnydd yn ymwneud â busnes, arloesi a masnach. Mae hyn yn cynnwys ein cynlluniau i ehangu’r gwasanaethau a’r cyfleusterau cargo, yn ogystal â champws busnes ac addysg newydd.

Mae’r cynlluniau ar gyfer Maes Awyr Caerdydd yn ceisio gwireddu strategaeth datblygu a buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd a arweinir gan y sector preifat er mwyn ceisio cynorthwyo rhaglen fuddsoddi ranbarthol. Mae ein Huwchgynllun yn ceisio cyd-fynd â chynlluniau pobl eraill ar gyfer datblygu, gan gynnwys y datblygiad masnachol gan Legal and General i’r dwyrain o’r Maes Awyr. Trwy weithio gyda’n gilydd, rydym yn gobeithio cynyddu potensial busnes ac economaidd y Maes Awyr, Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a Chymru fel cyfanrwydd. 

Yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd

Bydd darparu seilwaith sy’n addas ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol a fydd yn helpu i hwyluso datblygiad Maes Awyr Caerdydd trwy wella mynediad at gymunedau, diwylliant, cyflogaeth ac adnoddau naturiol, yn helpu i hyrwyddo ac amddiffyn safle Cymru yn y byd.  

Felly, rydym ni eisiau gwneud y Maes Awyr, a’r ffordd y mae pobl yn ymweld â’r Maes Awyr, yn fwy cynaliadwy.  

Fel rhan o’n cynigion, rydym yn bwriadu darparu seilwaith drafnidiaeth garbon isel integredig a chynaliadwy. Ein bwriad yw darparu mwy o ddewisiadau i’r rhai sy’n gweithio, ymweld ac yn defnyddio’r Maes Awyr, gyda chysylltiadau teithio egnïol, seilwaith bws trydanol, beiciau trydanol i’w llogi, pwyntiau gwefru cerbydau trydanol a chysylltiadau teithio bws cyflym at y campws a gynllunnir.

Yn ogystal, rhagwelir dull cynaliadwy a thymor hir o ddatblygu, gan ddefnyddio technoleg solar, deunyddiau adeiladu cynaliadwy a thechnolegau glanach.  

17

Gor

Newyddion Diweddaraf:

Cardiff Airport reports 10% growth for first quarter of the financial year Arrow

Three months of consecutive growth...

12

Gor

Newyddion Diweddaraf:

New digital screen unveiled at Cardiff Airport Arrow

New advertising opportunities available...

10

Gor

Newyddion Diweddaraf:

NATS secures ten year contract at Cardiff Airport Arrow

NATS has secured a ten year contract to provide air traffic and engineering services and expertise for Cardiff ...

5

Gor

Newyddion Diweddaraf:

Cardiff Airport set to welcome Hungarian football fans to Wales Arrow

Wizz Air will operate three direct charter flights from Hungary to Cardiff later this year...

2

Gor

Newyddion Diweddaraf:

Cardiff Airport invites passengers to join PRM and Disability Forum Arrow

Cardiff Airport invites passengers to join PRM and Disability Forum...

28

Meh

Newyddion Diweddaraf:

Cardiff Airport reports a reduction of more than 50% in carbon emissions Arrow

Cardiff Airport reports a reduction of more than 50% in carbon emissions...

24

Meh

Newyddion Diweddaraf:

Brand new aircraft jets in to Cardiff Airport to join DragonFly executive fleet Arrow

DragonFly marks 15 years...

19

Meh

Newyddion Diweddaraf:

First Minister unveils Refill Wales water fountains at Cardiff Airport on National Refill Day Arrow

3 new refill water fountains unveiled...

17

Meh

Newyddion Diweddaraf:

The search for Cardiff Airport’s next Chair is underway Arrow

New Chair will lead the national airport for Wales in in the next phase of its exciting journey...

11

Meh

Newyddion Diweddaraf:

Unanimous agreement of Welsh Affairs Committee: Devolve Air Passenger Duty to Wales by 2021 Arrow

Cardiff Airport welcomes the report published today [Tuesday 11 June] by the Welsh Affairs Committee into the devolution of Air Passenger Duty (APD).

Arrow
Arrow