Cabanau rhyngrwyd
Mae cabanau rhyngrwyd ar gael yn y derfynfa, sy’n rhoi cyfle i deithwyr bori’r we cyn mynd ar eu hawyren.
Mae'r cabanau ar gael yn y lleoliadau canlynol:
Cynlluniwyd y cabanau i ddarparu mynediad cyflym, dibynadwy i’r rhyngrwyd i’n teithwyr yn ystod eu cyfnod yn y maes awyr, a chodir tâl o 10c y funud ar deithwyr i bori’r we.
Mae gwasanaeth gwefru batri ar gyfer amrywiaeth o ffonau symudol hefyd ar gael yn y cabanau fydd yn galluogi teithwyr i wefru eu ffonau cyn gadael, a hynny heb dâl ychwanegol.
Rhyngrwyd WiFi Spectrum
Mae Maes Parcio Caerdydd yn cynnig mynediad diwifr i’r rhyngrwyd yn rhad ac am ddim am yr hanner awr cyntaf bob dydd. Wedi hynny y gost fydd £3 am bob awr.
Blwch Postio
Mae blwch postio i’w gael yn union y tu allan i’r derfynfa. Gellir prynu stampiau yn WH Smith o fewn y neuadd checio i mewn.