Os oes gennych unrhyw ymholiadau, yn cynnwys ymholiadau ffilmio neu ffotograffiaeth yn y maes awyr cysylltwch â swyddfa’r wasg drwy ebost [email protected] neu cysylltwch â +44 1446 711 111.
Nodwch: mae Swyddfa'r Wasg ar gyfer ymholiadau'r gyfryngau yn unig a ni fyddant yn ymateb i ymholiadau cyffredinol. Ffoniwch brif switsfwrdd y maes awyr ar +44 1446 711111 am wybodaeth i gwsmeriaid.
Gellir llwytho polisi ffilmio, radio a ffotograffiaeth Maes Awyr Caerdydd i lawr ar waelod y dudalen hon sy'n rhoi gwybodaeth ynglŷn ag unrhyw ffilmio, recordio neu ffotograffiaeth (masnachol neu arall) ar y safle.
Mae'n angenrheidiol bod aelodau o'r cyfryngau sydd am ddod i’r maes awyr yn darllen a chytuno â pholisi Maes Awyr Caerdydd, ac mae gofyn i aelodau o’r wasg a’r cyfryngau lenwi ffurflen i gadarnhau eu bod wedi darllen ac yn cytuno â’r polisi wedi cyrraedd y maes awyr. Dylid cadw’r ffurflen gyda chi bob amser fel cadarnhad eich bod wedi cael caniatâd i ddod i’r maes awyr.
Lawrlwytho'r polisi ffilmio, radio a ffotograffiaeth