Rydym yn estyn croeso cynnes Cymreig i’n holl deithwyr ym Maes Awyr Caerdydd. Os fyddwch angen cymorth yn y maes awyr, mae gennym dîm profiadol ac ymroddedig yma i’ch helpu gyda’ch gofynion neilltuol.
Os fyddwch angen cymorth wrth deithio, byddwch cystal â dilyn y camau canlynol
Gallwch gael gwybodaeth am barcio ar ein tudalen Parcio Cymorth Arbennig. Am wybodaeth gyffredinol am ddiogelwch yn y Maes Awyr darllenwch gwybodaeth am ddiogelwch.
Darllenwch ein cytundeb lefel gwasanaeth TSC.
Anableddau Cudd
Mae Maes Awyr Caerdydd yn cydnabod nad oes modd gweld llawer o anableddau. Mae gennym dîm ymroddgar a hynod hyfforddedig i ddarparu cymorth i’r teithwyr hynny a all fod angen cefnogaeth ychwanegol wrth deithio o’r Maes Awyr.
Y Cynllun Laniard Blodyn yr Haul
Mae Cynllun Laniard Blodyn yr Haul yn rhoi’r dewis i deithwyr i ofyn am gefnogaeth ychwanegol neu gymorth arbennig gyda’u profiad yn y derfynfa.
Gall teithwyr gydag anabledd cudd wisgo laniard, bathodyn pìn neu fand llawes er mwyn dangos yn gynnil i staff eu bod angen rhywfaint o gefnogaeth ychwanegol wrth symud drwy’r maes awyr.
Mae modd gwneud cais am gynnyrch Cynllun Laniard Blodyn yr Haul, yn rhad ac am ddim, o flaen llaw drwy gysylltu â desg Cymorth Arbennig y Maes awyr, neu gellir eu cael ar ddiwrnod y daith. Am fwy o wybodaeth, ffoniwch 01446 729329 neu e-bostiwch ni ar [email protected].
Teithiau Ymgyfarwyddo
Mae Maes Awyr Caerdydd yn cynnig teithiau ymgyfarwyddo, ble y gall cwsmeriaid drefnu amser neu ddyddiad cyfleus ymlaen llaw cyn eu bod yn teithio i ymweld â’r Maes Awyr, i siarad â’r tîm ac i brofi’r daith ar y ffordd i mewn ac ar y ffordd allan er mwyn ymgyfarwyddo ag amgylchedd y Maes awyr cyn eu taith. Byddwch cystal â nodi bod yr ymweliadau’n amodol ar argaeledd ac nid ydynt yn cynnwys mynd ar awyren. Cysylltwch â 01446 729329 neu e-bostiwch ni ar [email protected] i archebu ymweliad.
Useful links
Your rights to fly
Traveline Cymru
Civil Aviation Authority
CAA passenger survey on quality of assistance provided to passengers with reduced mobility at UK airports
Taking your pet abroad
Our Performance against Special Assistance Service Level Agreement winter 2018/19
Our performance against Special Assistance Service Level Agreement Summer 2019
Recent news
Joint working will enhance the airport customer journey https://www.cardiff-airport.com/news/2017/01/05/joint-working-will-enhance-the-airport-customer-journey/
Cardiff Airport staff trained by actors with learning disabilities to enhance their communication skills http://www.arts.wales/141247