Antwerp yw cartref y porthladd mwyaf ond un yn Ewrop a dyma hefyd ddinas fwyaf blaenllaw y byd o ran diemwntau, sy’n golygu ei bod yn gyrchfan ffyniannus ac yn ganolfan ragorol ar gyfer ffasiwn, bywyd nos a chelf. Dim ond awr i ffwrdd yn y car o Frwsel yw Antwerp ac mae’n berffaith ar gyfer penwythnos hir o wyliau, gan fod ynddi gymysgedd fendigedig o atyniadau hen a newydd.
Mae digonedd o hanes a threftadaeth i’w gweld yng nghanol y ddinas hanesyddol hon ac mae Antwerp hefyd yn cynnwys cadeirlan Gatholig drawiadol. Bydd y rhai sydd yn ymddiddori mewn celf hefyd yn gwerthfawrogi’r gadeirlan, gan ei bod yn gartref i amrywiaeth o baentiadau, gan gynnwys ‘Elevation of the Cross’, gwaith ysblennydd Pieter Paul Ruben. Ar y llaw arall, mae Antwerp yn ddinas hynod gyfoes gan fod ganddi enw da iawn am ffasiwn avant-garde, o ganlyniad i’r ffaith fod enwogion fel Dries Van Noten yn dylunio dillad yn y ddinas. Mae byd ffasiwn y ddinas wedi rhoi iddi’r statws o fod yn brif ddinas Gwlad Belg ar gyfer siopa.
I deithwyr sy’n chwilio am wyliau gwerth chweil, does dim rhaid edrych ymhellach nag Antwerp.
Look out for Belgium waffles that are sold by street vendors- they are delicious!
Gan Ceri Bower