Mae Bangkok yn rhywle lle mae dau fyd yn cyfuno. Ar yr un llaw, mae teithwyr yn gweld digonedd o adeiladau uchel modern a chanolfannau siopa, ac ar y llaw arall, byddant yn gweld temlau a strydoedd yn cynnwys cartrefi 100 mlwydd oed. Mae prif ddinas Gwlad Thai yn llawn rhyfeddodau ac mae Bangkok bob amser yn gwobrwyo’r rhai hynny sy’n gwerthfawrogi’r hen a’r newydd.
Cyn i Bangkok ddod yn ddinas gosmopolitan fywiog, canolfan fasnach fechan gyda chymuned borthladd oedd hi, gan ei bod yn sefyll ar lannau Afon Chao Phraya. Mae’r afon yn llifo drwy Bangkok ac mae’n rhan bwysig o’r ddinas wrth i gychod deithio yn ôl ac ymlaen ar ei hyd i gludo teithwyr eiddgar. Gall ymwelwyr hefyd deithio o amgylch y ddinas gan ddefnyddio’r Trenau Uchel modern.
O ganlyniad i’r amrywiaeth a geir yn y ddinas, mae yno ddigonedd o atyniadau i gadw ymwelwyr yn hapus, ond mae cyfle hefyd i ymlacio a mwynhau. Mae sbâu, bwytai a barau ardderchog ym mhob rhan o’r ddinas, gan gynnig cyfle gwych i orffwyso ar ôl crwydro o’i hamgylch.
Hedfan gwybodaeth i ddilyn yn fuan
Flights to this destination are available with connections from Cardiff. Click below to plan your trip.
Plan your tripRemember to take a fan with you as it is very hot, but avoid ice cubes!
Gan Sean GilesSample food from the food stalls around the city and definitely look out for PadThai!
Gan Sean GilesSpend a day at the temples, especially the Grand Palace.
Gan Ceri Bower