Cymru

Darganfyddwch arbenigrwydd Cymru 

Am wlad fach, mae gennym dipyn i’w gynnig. Mae gennym 641 o gestyll, 3 pharc cenedlaethol, 10 trên bach arbennig, sawl tref farchnad liwgar a Chaerdydd, ein prifddinas. Yn 2012, daeth Cymru yn un o’r unig wledydd yn y byd lle gallwch gerdded ar hyd arfordir y wlad i gyd, sef 1,400km o Lwybr Arfordir trawiadol.

Yma, fe ddewch chi ar draws tirlun a thirwedd arbennig a llond gwlad o anturiaethau awyr agored. Dringwch yr Wyddfa ym Mharc Cenedlaethol Eryri - dyma’r mynydd uchaf yng Nghymru a Lloegr - neu ewch ar y rheilffordd stêm hanesyddol i’r copa. Archwiliwch Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro gyda’i draethau o dywod, pentrefi pysgota, teithiau cerdded ar ben clogwyni a gweld yr ardaloedd nythu cyfoethog i filiynau o adar môr. Yn y pellter, cadwch lygad am ddolffiniaid ym Mae Ceredigion, neu teithiwch rhwng yr ynysoedd gan wylio’r morloi’n torheulo. Teithiwch ar gefn ceffyl, beiciwch neu ewch i gerdded ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog er mwyn bod yn un â’r tirlun cyfareddol hwn.

Ble bynnag yr arhoswch, fe fyddwch chi’n sicr o gael croeso twymgalon.

Mae’n hawdd teithio o un rhan o Gymru i’r llall gydag amser teithio o tua 4½ awr mewn car rhwng y de a’r gogledd. Dyma gyfle gwych i chi dynnu llun, mwynhau paned o goffi neu alw heibio tafarn lleol. Gallwch weld y gorau o Gymru mewn wythnos.

Eisiau cymllunio daith i Gymru?

Lawrlythwch amserlen teithiau hedfan yma Arrow

Hedfan gwybodaeth i ddilyn yn fuan




Flights to this destination are available with connections from Cardiff. Click below to plan your trip.

Plan your trip
Arrow

1. Stadiwm  y Mileniwm - Gwyliwch gêm bêl-droed neu rygbi rhyngwladol neu ewch ar daith o’r stadiwm lle gallwch redeg i lawr trwy dwnnel y chwaraewyr a dychmygu eich hun yn cynrychioli eich gwlad i floeddiadau’r 74,500 o gefnogwyr. www.millenniumstadium.com 

2. Cymoedd De Cymru - Mae’r Cymoedd, gyda’u hardaloedd eang o diroedd gwyrdd, yn cynnig cyfle gwych i gerdded a beicio mynydd. Mae yma hefyd gyfoeth o hanes. Nhw ydy calon ac enaid Cymru. I gael blas ar ein  treftadaeth ddiwydiannol, ewch i’r Big Pit, sef atyniad pwll glo go iawn ym Mlaenafon sydd ar restr Treftadaeth y Byd. Ac yng Nghaerffili, gallwch ryfeddu ar un o’r cestyll mwyaf yng Nghymru.

3. Bae Abertawe – Y Mwmbwls, Gŵyr, Cwm Afan a Chwm Nedd - Yma, cewch gyfle i ymlacio a mwynhau mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol  - y cyntaf o’i fath yn y Deyrnas Unedig. Mae yma hefyd gyfle i ymlacio ar draethau sydd wedi ennill gwobrau heb son am gyfle i fwynhau cefn gwlad hyfryd sydd heb ei ddifetha. Mae gan yr ardal hon rai o’r ardaloedd gorau yn y Deyrnas Unedig i gerdded, beicio, chwaraeon dŵr a golff. Ac mae’r cyfan o fewn cyrraedd hwylus i ddinas fyrlymus Abertawe, sy’n gartref i dîm pêl-droed yr Uwch Gynghrair, Swansea City.

4. Canolfan Ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian, Ceredigion - Mae'r canolfan yn ganolfan hamdden coedwig rhagorol yng nghalon Canolbarth Cymru, ac yn eiddo i ac a reolir gan Adnoddau Naturiol Cymru ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae'r atyniad wedi ennill nifer o wobrau a mae'r Ganolfan Ymwelwyr wedi cael ei ail-ddatblygu'n llwyr fel adeilad ecolegol gyda chyfleusterau bwyty ardderchog, siop anrhegion a golygfeydd gwych.

Mae Bwlch Nant-yr-Arian yn enwog am bwydo Barcud Coch yn ddyddiol, y gellir ei weld o'r Ganolfan Ymwelwyr neu o sawl man o amgylch y llyn. Mae yna system fideo gyda nifer o gamerâu o amgylch y llyn.

5. Rheilffordd yr Wyddfa - Mae'r rheilffordd yn yr unig rheilffordd rac a phiniwn cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig ac yn trafaelu â phobl ar llwybr 5 milltir i stopio  ychydig yn brin o gopa'r Wyddfa, y mynydd uchaf yng Nghymru a Lloegr.

Dargabfyddwchmwy yn http://www.visitwales.com/explore

Geiriau gan Croeso Cymru 

Eich Atgofion Chi

 

Darganfyddwch ragor o leoliadau

Arrow Arrow

27

Meh

Newyddion Diweddaraf:

Cardiff Airport welcomes Aer Lingus back to Wales with Belfast City service Arrow

Thanks to Aer Lingus and its partner Emerald Airlines, Cardiff Airport is pleased to announce the resumption of flights to the important UK ...

12

Ebr

Newyddion Diweddaraf:

Cardiff Airport celebrates 10 years of flights with Vueling Arrow

Cardiff Airport and Vueling are celebrate 10 years of flights from Wales...

8

Ebr

Newyddion Diweddaraf:

Cardiff Airport welcomes new leading, low-cost carrier – Wizz Air Arrow

Wizz Air launches services from Cardiff Airport...

25

Maw

Newyddion Diweddaraf:

Summer Season delivers increased connectivity at Cardiff Airport Arrow

Summer Season delivers increased connectivity at Cardiff Airport...

25

Maw

Newyddion Diweddaraf:

Summer Season delivers increased connectivity at Cardiff Airport Arrow

Summer Season delivers increased connectivity at Cardiff Airport...

10

Chw

Newyddion Diweddaraf:

Cardiff Airport partners with SO Coffee to fuel passengers’ journeys Arrow

Cardiff Airport partners with SO Coffee to fuel passengers’ journeys...

20

Ion

Newyddion Diweddaraf:

Paris flights now on sale for a summer getaway with Vueling Arrow

Paris frequency increased to 3 flights per week...

18

Ion

Newyddion Diweddaraf:

DragonFly adds jet to its fleet of turboprops Arrow

DragonFly, the executive air charter company based at Cardiff Airport, has announced the addition of a Cessna Citation C550 Bravo jet to its ...

10

Ion

Newyddion Diweddaraf:

Cardiff Airport appoints new Aviation Development Manager Arrow

Marc Watkins will lead on Cardiff Airport's route development and airline partnerships. ...

22

Tac

Newyddion Diweddaraf:

Reserve & Collect service launches at Cardiff Airport Arrow

Passengers flying from Cardiff Airport can now enjoy a new Reserve & Collect service from World Duty Free.

Arrow
Arrow