Tenerife yw'r diemwnt yng nghoron yr Ynysoedd Dedwydd. Mae yma haul drwy'r flwyddyn, traethau du folcanig a dyfroedd glas llachar. O ganlyniad, mae'n un o'r cyrchfannau gwyliau mwyaf poblogaidd, gyda llawer o bobl yn ymweld â'r ynys hon i ymlacio, archwilio a chofleidio'r haul!
Ond mae Tenerife yn cynnig gymaint mwy na thywydd braf. Yma gallwch weld tirwedd ddramatig ac amrywiol rhannau Gogleddol a Deheuol yr ynys gyda 350km o arfordir, lafa folcanig a choedwigoedd gwyrdd ffrwythlon.
Os ydych yn mwynhau fforio, paciwch eich esgidiau cerdded a pharatoi am antur! Mae yma ddau safle treftadaeth y byd a pharc cenedlaethol i'w gweld yn ogystal â milltiroedd o dirwedd ryfeddol. Neu gallwch fwynhau'r chwaraeon dŵr, amgueddfeydd a'r bywyd nos cyffrous!