Mae De Affrica’n llawn rhyfeddodau gyda rhywbeth newydd i’ch syfrdanu neu’ch difyrru ar bob tu. Mae’n wlad sy’n enwog am ei thirlun amrywiol, am fynd ar saffari ac am ei choginio egsotig, gwlad sy’n trwytho teithwyr yn agweddau gwyllt bywyd.
Profwch egni a chyffro Johannesburg, ardal ddinesig fwyaf De Affrica â phensaernïaeth sy’n amrywio o adeiladau modern uchel o wydr a choncrid i bensaernïaeth Fictorianaidd cywrain, yn ogystal ag amrywiaeth o fwytai traddodiadol, clybiau jazz ac amgueddfeydd i’ch diddanu. Neu beth am ei chychwyn hi am Cape Town, dinas hynaf De Affrica wrth droed rhyfeddod Mynydd y Bwrdd. Mae digonedd o ddewis i’r rhai sy’n chwilio am antur boed hynny drwy yrru car ar hyd ffyrdd yr arfordir, reidio’r tonnau neu feicio llwybrau caregog.
Pa bynnag ran o Dde Affrica y dewiswch ymweld ag ef, byddwch yn canfod llwybrau newydd i’w troedio.
Hedfan gwybodaeth i ddilyn yn fuan
Flights to this destination are available with connections from Cardiff. Click below to plan your trip.
Plan your tripKariega Game Park is one of the best things I have ever done!!
Gan Jesse Liperz-RobicTable Mountain is definitely a must-see, and make some time to go to Robben Island.
Gan Jesse Liperz-Robic