Mae tref hyfryd Larnaca yn llecyn gwych i ymwelwyr sy'n chwilio am ffordd o fyw ardal Môr y Canoldir. Lleolir Larnaca ar arfordir de-ddwyreiniol Cyprus, ac mae'n un o'r trefi Groegaidd olaf ar yr ynys sydd heb gael eu llethu gan dwristiaeth.
Yn ystod blynyddoedd diweddar, mae gwestai bwtîc wedi cael eu hadeiladu o amgylch y dref, sy'n golygu y gall rhagor o ymwelwyr aros a mwynhau'r traethau taclus hyfryd a'r tirnodau hanesyddol, ac ymblesera mewn amrywiaeth o gaffis a bwytai traddodiadol dilys gerllaw'r môr. Yn ystod yr ymweliad. bydd yr heulwen fendigedig a'r awel dyner barhaol yn sicrhau fod ymweld ag atyniadau yn brofiad hamddenol.
I'r sawl sy'n chwilio am wyliau bywiocach, mae paradwys clybiau nos Ayia Napa yn daith fer mewn car, ac mae'n cynnig amrywiaeth o fywyd nos a wnaiff sicrhau fod teithwyr yn dawnsio trwy'r nos.
Make sure that you go to an after party called ‘River Reggae’ because it is the best place to party the night away!
Gan Geoff YoungGo to Destino! It is a cracking restaurant with really tasty food!
Gan Geoff Young