Dywedir mai Paphos yw man geni'r dduwies Roegaidd Aphrodite, oedd yn symboleiddio cariad a harddwch. Gellir gweld y nodweddion hyn ym mhob cwr o'r ddinas, ac mae wedi dod yn ffefryn ymhlith ymwelwyr.
Mae'r ddinas arfordirol hon yn ddihangfa wych i'r sawl sy'n chwilio am ychydig o ddiwylliant, oherwydd mae'n cynnwys gweddillion llawer o filas, theatrau a chaerau sy'n dyddio'n ôl i'r cyfnodau Clasurol a Rhufeinig. Fel arall, gall ymwelwyr o bob oedran wisgo gwisg blymio a mwynhau amrywiaeth o chwaraeon dwr ar y moroedd digyffro.
Daw'r ddinas yn fyw gyda'r hwyr ac mae'n cynnig cymysgedd flasus o fwytai, barrau a chaffis yn ardal dawel Paphos Uchaf (Ktima) neu lecyn mwy bywiog Paphos Isaf (Kato). Mae Paphos yn cynnig cymaint i'w weld a'i wneud, ac mae bellach yn gyrchfan wyliau gofiadwy.
A walk along the harbour after a delicious meal is one of the many simple pleasures in Paphos!
Gan Lucinda