Mae Belfast, prif ddinas Gogledd Iwerddon, yn ddinas gompact a bywiog sy'n cynnig profiad sy'n addas ar gyfer unrhyw boced. Mae hi hefyd yn ddinas sy'n llawn hanes cyfoethog, a bu iddi chwarae rhan bwysig yn y Chwyldro Diwydiannol ac adeiladu'r fythgofiadwy RMS Titanic.
Oherwydd bod yna gymaint i'w ddarganfod, mae'r ddinas yn cynnig teithiau cerdded, ar fws ac mewn tacsi fydd yn eich cludo i galon y ddinas. Yma byddwch yn canfod amrywiaeth o siopau, bariau a thai bwyta sydd yng nghanol awyrgylch cyfeillgar a chroesawgar.
Mae'r ddinas hefyd yn cynnig sin gerddoriaeth sy'n ffynnu, felly sicrhewch eich bod yn gwrando ar un o'r bandiau Gwyddelig traddodiadol sy'n chwarae yn y bariau a'r theatrau ar hyd a lled Belfast. Pwy â ŵyr pa dalent fyddwch yn ei ganfod!
Go see the Stormont Estate where the northern Irish parliament meet, it looks like a giant palace!
Gan Will Kinghan