Oporto Metropolis Odidog

Gallwch hedfan o Gaerdydd i Oporto gan newid awyren unwaith yn unig

Porto, a adnabyddir hefyd fel Oporto yn Saesneg, yw prif ddinas rhanbarth Gogleddol Portiwgal. Porto yw ail ddinas fwyaf y wlad ac mae’n fwy enwog am fod yn fetropolis gyffrous na chyrchfan i dwristiaid, gan roi'r ymdeimlad bod Porto’n gyrchfan sydd eto i'w ddarganfod, ac mae hyn yn golygu ei fod yn lle gwych i archwilio ac i deimlo fel un o’r trigolion lleol ar yr un pryd! Y mae hi hefyd yn ddinas brydferth dros ben, gyda thai o wahanol liwiau deniadol wedi’u hadeiladu ar ochr y bryn yn edrych dros yr Afon Douro.

Oherwydd ei lleoliad, dylai pobl sy’n ymweld â Phorto gofio mynd â'u hesgidiau cerdded cyfforddus bob amser, gan fod atyniadau’r ddinas wedi’u gwasgaru ar hyd a lled y strydoedd serth. Ychwanega hyn at swyn y ddinas, gan ei bod yn gwobrwyo’r rhai sy’n fodlon gwneud yr ymdrech gyda golygfeydd rhyfeddol.

I’r rhai sy’n chwilio am safleoedd hanesyddol, mae Porto’n rhagori eto, gyda statws Treftadaeth y Byd yn cael ei ddyfarnu i Hen Dref Ribeira yn 1996. Yn yr un modd, os yw ymwelwyr eisiau gweld mwy o’r Porto fodern, gallant ymweld â’i maestrefi ger y lli, lle byddant yn cael cyfle i weld atyniadau modern ynghyd â bwytai gwych. 

  1. Mwynhewch yr olygfa. Os nad ydych yn awyddus i gerdded i ben Ribeira, neidiwch ar fws neu daliwch dacsi i gyrraedd y copa ynghynt. Ar ôl mwynhau’r olygfa, bydd cerdded i lawr y bryn yn bleserus iawn.
  2. Ewch i lan y môr. Os ydych yn bwriadu archwilio i ffwrdd o ganol y ddinas, ewch i’r maestrefi lle byddwch yn dod o hyd i draethau a phentrefi pysgota. Ym Matosinhos, sydd ymhellach i’r gogledd, gallwch ddod o hyd i byllau nofio gwych ac wedyn mwynhau'r bwyd môr y mae'n enwog amdano.
  3. Mwynhewch noswaith o gerddoriaeth. I’r rhai sydd eisiau gweld cerddorfa eithriadol, mae gan Casa da Música dair ohonynt! Cynlluniwyd y neuadd gyngerdd hon gan Rem Koolhaas ac mae ei phensaernïaeth yn hynod drawiadol. Pa un a ydych chi'n cadw lle i weld perfformiad neu’n prynu ticed i gael gweld yr awditoriwm, ni chewch eich siomi.
  4. Llogwch feic. Er y disgrifir Oporto fel “dinas gerddadwy”, mae yno hefyd lwybr beicio sy’n mynd heibio’r afon, ac mae digonedd o feiciau a thandemau y gall ymwelwyr eu llogi.
  5. Ymlaciwch. Ar ôl crwydro strydoedd Oporto, dylai ymwelwyr ymlacio gyda hufen iâ. Er nad yw Oporto’n enwog amdano, mae hufen iâ wedi dod yn fwy poblogaidd yn y ddinas ac yn cael ei greu gan ddefnyddio cynhwysion lleol ffres.

Cross the Ponte de D.Luis birdge, and you can get some excellent photos of the bridge and the surrounding landscape from the river bank.

Gan Tiago Benigno

Cais da Ribeira - This is a great place to grab a drink and something to eat. There are lots of people, and the atmosphere is great. If you like to people watch, this is the spot!!

Gan Tiago Benigno

Villa Nova de Gaia (the other side of the river). - This is a nice old part of the city, and is great for a romantic stroll. I would recommend visiting this place at the end of the day, good spot for sunsets.

Gan Tiago Benigno
Rhannwch eich cynghorion

Eich Atgofion Chi

Flights to this destination are available with connections from Cardiff. Click below to plan your trip.

Plan your trip
Arrow

Darganfyddwch ragor o leoliadau

Arrow Arrow

4

Rha

Newyddion Diweddaraf:

Sganiwr teithwyr newydd sy’n defnyddio technoleg ar gyfer y gofod i gyflymu'r broses ddiogelwch mewn meysydd awyr Arrow

Treialu technoleg arloesol o’r DU ym maes awyr Caerdydd...

19

Tac

Newyddion Diweddaraf:

Flybe launches £25 Black Friday sale on 100,000 seats – plus double Avios points Arrow

£25 fares available on 10 routes from Cardiff...

8

Tac

Newyddion Diweddaraf:

Holiday Extras signs major parking technology deal with Cardiff Airport Arrow

A new car park booking platform...

2

Tac

Newyddion Diweddaraf:

New Winter route for Welsh sunseekers from Cardiff Airport Arrow

Fly to Hurghada, Egypt in Winter 2019...

30

Hyd

Newyddion Diweddaraf:

Cardiff Airport wins prestigious industry award at the AOA Annual Awards Arrow

Award for best Airport Campaign at this year's UK Airports Safety Week...

24

Hyd

Newyddion Diweddaraf:

Maes Awyr Caerdydd yn hedfan i’r gaeaf gyda mwy o dwf yn nifer y teithwyr Arrow

Maes Awyr Caerdydd yn hedfan i’r gaeaf gyda mwy o dwf yn nifer y teithwyr...

18

Hyd

Newyddion Diweddaraf:

Ryanair yn lansio amserlen haf 2019 Caerdydd Arrow

Ryanair yn lansio amserlen haf 2019 Caerdydd...

16

Hyd

Newyddion Diweddaraf:

Gwyliau gwych Nadoligaidd o Faes Awyr Caerdydd Arrow

Gwyliau gwych Nadoligaidd o Faes Awyr Caerdydd...

5

Hyd

Newyddion Diweddaraf:

Omega Breaks yn cyhoeddi fod y ‘daith hedfan nos’ unigryw i chwilio am Oleuni’r Gogledd yn ei hôl Arrow

Omega Breaks yn cyhoeddi fod y ‘daith hedfan nos’ unigryw i chwilio am Oleuni’r Gogledd yn ei ...

3

Hyd

Newyddion Diweddaraf:

Maes Awyr Caerdydd yn llwyddo cael twf pellach yn nifer teithwyr a’r EBITDA cadarnhaol cyntaf mewn wyth mlynedd Arrow

  Maes Awyr Caerdydd yn llwyddo cael twf pellach yn nifer teithwyr a’r EBITDA cadarnhaol cyntaf mewn wyth mlynedd Mae Maes Awyr Caerdydd wedi ...

Arrow
Arrow