Efallai mai Toronto yw dinas fwyaf poblog Canada, ond mae hi hefyd yn gartref i amrywiaeth o barcdiroedd, ffrydiau ac afonydd sy'n llifo drwy ganol y ddinas. Mae hyn yn creu awyrgylch ymlaciol a hamddenol oherwydd mae Toronto yn bell o fod yn goedwig goncrit.
Yn ddibynnol ar y tymor, mae Toronto yn cynnig profiad gwahanol i ymwelwyr yn ystod yr hafau poeth a'r gaeafau oer. Yn ystod misoedd yr haf gallwch ymuno â'r bobl leol ar strydoedd y ddinas, cyn plymio i Lyn Ontario. Os ydych yn chwilio am wyliau gaeaf, mae Toronto yn trawsnewid i fod yn gyrchfan glud oherwydd gallwch ymlacio wrth y tân yn un o'i thafarndai hynod cyn gwylio gêm o hoci iâ!
Pryd bynnag y byddwch yn penderfynu ymweld â Thoronto, byddwch yn sicr o gael croeso cynnes.
Hedfan gwybodaeth i ddilyn yn fuan
Flights to this destination are available with connections from Cardiff. Click below to plan your trip.
Plan your trip