Fenis Darganfyddwch y ddinas yn y dŵr

Hedfan o Gaerdydd i Fenis gan newid awyren unwaith yn unig

Mae llawer wedi canmol dinas hudolus Fenis, ond nid yw’r ganmoliaeth yn gwneud cyfiawnder â hi. Mae’r ddinas anhygoel hon yn codi’n urddasol o’r dŵr, â chamlesi yn cymryd lle strydoedd a’r ymwelwyr yn arnofio ar hyd y Gamlas Fawr gan werthfawrogi’r amrywiol olygfeydd. Honnir bod poblogaeth Fenis yn dyblu bob dydd pan fo’r twristiaid yn heidio at ei dyfroedd disglair, felly nid yw’n syndod bod Fenis yn llawn atyniadau diwylliannol.

Mae gan y ddinas 117 o ynysoedd a gysylltir gan bontydd a chamlesi, a dyna sy’n creu’r darlun bythgofiadwy hwnnw o deithwyr yn archwilio Fenis mewn gondola. Ceir eglwysi a phensaernïaeth sy’n adrodd hanes bob ochr i'r camlesi. Uchafbwynt o ran hanes y ddinas yw Basilica Sant Marc sy’n cynrychioli pensaernïaeth y Dadeni i’r dim.

Mae Fenis yn ddiamau yn weledol drawiadol, yn enwedig pan fo haul crasboeth yr Eidal yn disgleirio. Ond hyd yn oed pan fo’r niwl yn cysgodi’r ddinas, mae ei harddwch bob amser yn amlwg.

  1. Rhowch gynnig ar Rwyfo Fenisaidd. Os ydych chi’n dymuno rhoi cynnig ar rywbeth gwahanol yn Fenis, ac os nad ydych chi awydd talu i fynd am dro mewn gondola, mae Rhwyfo Fenisaidd yn ddewis gwych. Cewch wers 90 munud sy’n eich dysgu sut i rwyfo’n iawn ar hyd camlesi Fenis.   
  2. Bwyd môr. Gan fod yn Fenis ar lan y dŵr, nid yw’n syndod bod bwyd môr yn arbenigedd yn y ddinas. Ewch am dro ar hyd y camlesi a threulio gyda’r nos yn un o’r bistros yn blasu’r bwyd môr a gwydraid o brosecco blasus.
  3. Ewch i’r eglwys. Crwydrwch o amgylch San Polo, un o rannau hynaf Fenis, sy’n gartref i amrywiaeth o eglwysi ardderchog. Mae Santa Maria Gloriosa dei Frari yn sicr yn werth ei gweld.
  4. Mwynhewch y carnifal. Cynhelir Carnifal blynyddol Fenis neu’r Carnevale di Venezia ym mis Chwefror fel arfer ac mae’n denu llu o ymwelwyr i’w ddathliadau dirgel. Mae masgiau yn rhan fawr o’r ŵyl ac os nad ydych chi yn y ddinas yn ystod y carnifal, ewch i siop fasgiau i weld y dyluniadau cywrain.
  5. Dringwch y tŵr. Os ydych chi’n dymuno gweld y ddinas ar ei gorau, ewch am dro i fyny Tŵr Cloch y Campanile ym Masilica Sant Marc. Mae’r tŵr yn y Piazza San Marco ac mae’n costio oddeutu 8 ewro y pen.

Venice is a fantastic place and absolutely beautiful- a must-visit!

Gan Claire Pavey

Try to see a concert in a church or somewhere with similar acoustics as the music is beautiful.

Gan Jerry O'Brien

Stay on Venice lido and catch the water taxi to Venice as accommodation is much cheaper.

Gan Emma Townsend

Make sure to cross the Rialto Bridge! Mardi Gras in Venice is amazing, as the mists and the masks with the narrow streets create a great atmosphere.

Gan Jerry O'Brien

Take a gondola ride of course! We spent a bit more and went at dusk which was great because we saw Venice both in the day and as it went dark.

Gan Emma Townsend

Have an Aperol spritz- all the locals drink them and it is very refreshing!

Gan Emma Townsend
Rhannwch eich cynghorion

Eich Atgofion Chi

Hedfan gwybodaeth i ddilyn yn fuan




Darganfyddwch ragor o leoliadau

Arrow Arrow

4

Rha

Newyddion Diweddaraf:

Sganiwr teithwyr newydd sy’n defnyddio technoleg ar gyfer y gofod i gyflymu'r broses ddiogelwch mewn meysydd awyr Arrow

Treialu technoleg arloesol o’r DU ym maes awyr Caerdydd...

19

Tac

Newyddion Diweddaraf:

Flybe launches £25 Black Friday sale on 100,000 seats – plus double Avios points Arrow

£25 fares available on 10 routes from Cardiff...

8

Tac

Newyddion Diweddaraf:

Holiday Extras signs major parking technology deal with Cardiff Airport Arrow

A new car park booking platform...

2

Tac

Newyddion Diweddaraf:

New Winter route for Welsh sunseekers from Cardiff Airport Arrow

Fly to Hurghada, Egypt in Winter 2019...

30

Hyd

Newyddion Diweddaraf:

Cardiff Airport wins prestigious industry award at the AOA Annual Awards Arrow

Award for best Airport Campaign at this year's UK Airports Safety Week...

24

Hyd

Newyddion Diweddaraf:

Maes Awyr Caerdydd yn hedfan i’r gaeaf gyda mwy o dwf yn nifer y teithwyr Arrow

Maes Awyr Caerdydd yn hedfan i’r gaeaf gyda mwy o dwf yn nifer y teithwyr...

18

Hyd

Newyddion Diweddaraf:

Ryanair yn lansio amserlen haf 2019 Caerdydd Arrow

Ryanair yn lansio amserlen haf 2019 Caerdydd...

16

Hyd

Newyddion Diweddaraf:

Gwyliau gwych Nadoligaidd o Faes Awyr Caerdydd Arrow

Gwyliau gwych Nadoligaidd o Faes Awyr Caerdydd...

5

Hyd

Newyddion Diweddaraf:

Omega Breaks yn cyhoeddi fod y ‘daith hedfan nos’ unigryw i chwilio am Oleuni’r Gogledd yn ei hôl Arrow

Omega Breaks yn cyhoeddi fod y ‘daith hedfan nos’ unigryw i chwilio am Oleuni’r Gogledd yn ei ...

3

Hyd

Newyddion Diweddaraf:

Maes Awyr Caerdydd yn llwyddo cael twf pellach yn nifer teithwyr a’r EBITDA cadarnhaol cyntaf mewn wyth mlynedd Arrow

  Maes Awyr Caerdydd yn llwyddo cael twf pellach yn nifer teithwyr a’r EBITDA cadarnhaol cyntaf mewn wyth mlynedd Mae Maes Awyr Caerdydd wedi ...

Arrow
Arrow