Ni ddylid symud unrhyw eiddo heb neb yn ei oruchwylio, a dylid rhoi gwybod i aelod o staff diogelwch neu i Asiant Gwasanaethau Cwsmeriaid.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglyn ag eiddo sydd wedi mynd ar goll cysylltwch â’r maes awyr ar +441446 711111 a dewis yr opsiwn 'eiddo coll', gan adael neges ar y peiriant ateb yn rhoi disgrifiad manwl o’r eitem a’r amser, dyddiad a lleoliad y’i collwyd. Dim ond os yw'r eitem yn cael ei darganfod y bydd rhywun yn cysylltu yn ôl.

Os ydych wedi gadael eiddo ar yr awyren, cysylltwch â’r cwmni awyrennau, cwmni teithio neu’r cwmni sy’n gyfrifol am yr awyren yn y maes awyr. Cliciwch yma i gael eu manylion cyswllt.

Arrow
Arrow