Dyluniwyd y strategaeth ddylunio ar gyfer yr Uwchgynllun i fod yn ddigon hyblyg i fodloni newidiadau yng ngalw teithwyr ac anghenion cludo. Mae’r egwyddorion canlynol yn amlinellu canllaw ar gyfer ehangu a gwella’r Maes Awyr y mae’r Uwchgynllun yn ceisio ei hyrwyddo:
- Terfynfa newydd o’r radd flaenaf, sy’n canolbwyntio ar optimeiddio profiad y defnyddwyr a darparu croeso unigryw i’w ddylunio a’i gyfeirio i alluogi rhyngwyneb â’r Ardal Fenter a datblygiadau masnachol a busnes posibl;
- Darparu standiau newydd ar gyfer cymysgedd o awyrennau, gan gynnwys standiau cyswllt a phell;
- Terfynfa cargo newydd;
- Darparu ffordd benodedig newydd i gyrraedd y derfynfa o’r A4226, gan wahanu traffig y Maes Awyr rhag traffig arall, gan gynnwys yr Ardal Fenter;
- Gwella’r mynediad i gerddwyr a beiciau i safle’r Maes Awyr a thrwyddo, gan gynnwys cysylltiadau â’r Rhws a’r Barri;
- Integreiddio â’r Metro yn y dyfodol, gyda chysylltiad bws wedi’i ddiogelu, yn ogystal â chysylltiad penodedig gwell rhwng y derfynfa a gorsaf drenau Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd y Rhws, a fydd yn gwella’r profiad trosglwyddo;
- Gwella’r gwagle agored, mannau cyhoeddus a thirlunio; a
- Tir wedi’i ddiogelu ar gyfer ehangu.
Mae’r nodweddion allweddol a’r ystyriaethau dylunio’n cynnwys:
Porth Rhyngwladol:

- Darparu mwy o gapasiti i dyfu i dair miliwn a mwy o deithwyr y flwyddyn
- Denu cwmnïau hedfan newydd, sicrhau llwybrau newydd a rhoi rhagor o ddewis i gwsmeriaid sy’n hedfan i’r rhanbarth ac oddi yno
- Arallgyfeirio’r maes awyr i greu ac i ddatblygu cyfleoedd ar gyfer hedfan, cargo, addysg, technoleg ac arloesi
- Adeiladu ar ein gweithredu effeithlon a diogel 24/7.
Lle unigryw:

- Creu man cyhoeddus i’r gymuned ei mwynhau
- Cyffroi cwsmeriaid cyn iddyn nhw hedfan a’r rhai sy’n cyrraedd yng Nghymru, gan greu teimlad o leoliad ac ymwybyddiaeth o ddiwylliant Cymru
- Cysylltu busnesau ar draws campws y Maes Awyr, gan gefnogi’r rhanbarth a’r Ardal Fenter
- Cefnogi addysg trwy roi lle i ddysgu ac arloesi.
Terfynfa Newydd:

- Ymestyn ein hunaniaeth unigryw fel porth i Gymru, a chreu argraff dda ar bobl wrth iddynt gyrraedd a gadael
- Sicrhau ei bod yn hygyrch i bawb
- Ymestyn profiad ein cwsmeriaid gyda chyfleusterau o’r radd flaenaf
- Datblygu ein cymwysterau ‘gwyrdd’ er mwyn bodloni ein hymrwymiadau amgylcheddol a chymdeithasol.
Gwesty 4* Newydd:

- Datblygu’r gwesty cyntaf ar y safle
- Cynnig mwy o ddewis i gwsmeriaid o ran llety lleol
- Cynnig cyfleusterau cynadleddau a chyfarfodydd busnes
- Cynnig lleoliad cyfleus i ymwelwyr grwydro trwy’r rhanbarth.
Canolfan Drafnidiaeth Newydd a Maes Parcio:

- Cynnig mwy o ddewisiadau teithio i gwsmeriaid, y gymuned a thîm y Maes Awyr; car, bws, trên, tacsi, llogi car a theithio egnïol
- Cynnig cyfleuster trafnidiaeth integredig well
- Datblygu maes parcio aml-lawr newydd yn agos at adeilad y derfynfa
- Cynnig gwasanaethau newydd i wella profiad y cwsmeriaid.
Mynediad: Statws:
Dileu tollau Croesfan Hafren yr M4: Ar waith
Ffordd Osgoi Casnewydd yr M4: Arfaethedig
Ffordd gyswllt Pendoylan yr M4: Arfaethedig
Gwella’r lôn bum milltir: Ar waith
Gwella prif linell Great Western: Ar waith
Datblygu Metro De Cymru:Ar waith
Trenau mwy aml: Arfaethedig
Cysylltiad bws cyflym: Ar waith