Dyluniwyd y strategaeth ddylunio ar gyfer yr Uwchgynllun i fod yn ddigon hyblyg i fodloni newidiadau yng ngalw teithwyr ac anghenion cludo. Mae’r egwyddorion canlynol yn amlinellu canllaw ar gyfer ehangu a gwella’r Maes Awyr y mae’r Uwchgynllun yn ceisio ei hyrwyddo:

  1. Terfynfa newydd o’r radd flaenaf, sy’n canolbwyntio ar optimeiddio profiad y defnyddwyr a darparu croeso unigryw i’w ddylunio a’i gyfeirio i alluogi rhyngwyneb â’r Ardal Fenter a datblygiadau masnachol a busnes posibl;
  2. Darparu standiau newydd ar gyfer cymysgedd o awyrennau, gan gynnwys standiau cyswllt a phell;
  3. Terfynfa cargo newydd;
  4. Darparu ffordd benodedig newydd i gyrraedd y derfynfa o’r A4226, gan wahanu traffig y Maes Awyr rhag traffig arall, gan gynnwys yr Ardal Fenter;
  5. Gwella’r mynediad i gerddwyr a beiciau i safle’r Maes Awyr a thrwyddo, gan gynnwys cysylltiadau â’r Rhws a’r Barri;
  6. Integreiddio â’r Metro yn y dyfodol, gyda chysylltiad bws wedi’i ddiogelu, yn ogystal â chysylltiad penodedig gwell rhwng y derfynfa a gorsaf drenau Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd y Rhws, a fydd yn gwella’r profiad trosglwyddo;
  7. Gwella’r gwagle agored, mannau cyhoeddus a thirlunio; a
  8. Tir wedi’i ddiogelu ar gyfer ehangu.

Mae’r nodweddion allweddol a’r ystyriaethau dylunio’n cynnwys:

Porth Rhyngwladol:

  • Darparu mwy o gapasiti i dyfu i dair miliwn a mwy o deithwyr y flwyddyn
  • Denu cwmnïau hedfan newydd, sicrhau llwybrau newydd a rhoi rhagor o ddewis i gwsmeriaid sy’n hedfan i’r rhanbarth ac oddi yno
  • Arallgyfeirio’r maes awyr i greu ac i ddatblygu cyfleoedd ar gyfer hedfan, cargo, addysg, technoleg ac arloesi
  • Adeiladu ar ein gweithredu effeithlon a diogel 24/7.

Lle unigryw:

  • Creu man cyhoeddus i’r gymuned ei mwynhau
  • Cyffroi cwsmeriaid cyn iddyn nhw hedfan a’r rhai sy’n cyrraedd yng Nghymru, gan greu teimlad o leoliad ac ymwybyddiaeth o ddiwylliant Cymru
  • Cysylltu busnesau ar draws campws y Maes Awyr, gan gefnogi’r rhanbarth a’r Ardal Fenter
  • Cefnogi addysg trwy roi lle i ddysgu ac arloesi.

Terfynfa Newydd:

 

  • Ymestyn ein hunaniaeth unigryw fel porth i Gymru, a chreu argraff dda ar bobl wrth iddynt gyrraedd a gadael
  • Sicrhau ei bod yn hygyrch i bawb
  • Ymestyn profiad ein cwsmeriaid gyda chyfleusterau o’r radd flaenaf
  • Datblygu ein cymwysterau ‘gwyrdd’ er mwyn bodloni ein hymrwymiadau amgylcheddol a chymdeithasol.

Gwesty 4* Newydd:

  • Datblygu’r gwesty cyntaf ar y safle
  • Cynnig mwy o ddewis i gwsmeriaid o ran llety lleol
  • Cynnig cyfleusterau cynadleddau a chyfarfodydd busnes
  • Cynnig lleoliad cyfleus i ymwelwyr grwydro trwy’r rhanbarth.

 Canolfan Drafnidiaeth Newydd a Maes Parcio:

  • Cynnig mwy o ddewisiadau teithio i gwsmeriaid, y gymuned a thîm y Maes Awyr; car, bws, trên, tacsi, llogi car a theithio egnïol
  • Cynnig cyfleuster trafnidiaeth integredig well
  • Datblygu maes parcio aml-lawr newydd yn agos at adeilad y derfynfa
  • Cynnig gwasanaethau newydd i wella profiad y cwsmeriaid.

Mynediad: Statws:

Dileu tollau Croesfan Hafren yr M4: Ar waith                      

Ffordd Osgoi Casnewydd yr M4: Arfaethedig

Ffordd gyswllt Pendoylan yr M4: Arfaethedig

Gwella’r lôn bum milltir: Ar waith

Gwella prif linell Great Western: Ar waith

Datblygu Metro De Cymru:Ar waith

Trenau mwy aml: Arfaethedig

Cysylltiad bws cyflym: Ar waith

 

 

27

Meh

Newyddion Diweddaraf:

Cardiff Airport welcomes Aer Lingus back to Wales with Belfast City service Arrow

Thanks to Aer Lingus and its partner Emerald Airlines, Cardiff Airport is pleased to announce the resumption of flights to the important UK ...

12

Ebr

Newyddion Diweddaraf:

Cardiff Airport celebrates 10 years of flights with Vueling Arrow

Cardiff Airport and Vueling are celebrate 10 years of flights from Wales...

8

Ebr

Newyddion Diweddaraf:

Cardiff Airport welcomes new leading, low-cost carrier – Wizz Air Arrow

Wizz Air launches services from Cardiff Airport...

25

Maw

Newyddion Diweddaraf:

Summer Season delivers increased connectivity at Cardiff Airport Arrow

Summer Season delivers increased connectivity at Cardiff Airport...

25

Maw

Newyddion Diweddaraf:

Summer Season delivers increased connectivity at Cardiff Airport Arrow

Summer Season delivers increased connectivity at Cardiff Airport...

10

Chw

Newyddion Diweddaraf:

Cardiff Airport partners with SO Coffee to fuel passengers’ journeys Arrow

Cardiff Airport partners with SO Coffee to fuel passengers’ journeys...

20

Ion

Newyddion Diweddaraf:

Paris flights now on sale for a summer getaway with Vueling Arrow

Paris frequency increased to 3 flights per week...

18

Ion

Newyddion Diweddaraf:

DragonFly adds jet to its fleet of turboprops Arrow

DragonFly, the executive air charter company based at Cardiff Airport, has announced the addition of a Cessna Citation C550 Bravo jet to its ...

10

Ion

Newyddion Diweddaraf:

Cardiff Airport appoints new Aviation Development Manager Arrow

Marc Watkins will lead on Cardiff Airport's route development and airline partnerships. ...

22

Tac

Newyddion Diweddaraf:

Reserve & Collect service launches at Cardiff Airport Arrow

Passengers flying from Cardiff Airport can now enjoy a new Reserve & Collect service from World Duty Free.

Arrow
Arrow