Gwybodaeth am ddiogelwch

Sganwyr diogelwch

Am fwy o wybodaeth am y sganwyr diogelwch lawrlwythwch y ffurflen isod:

Lawrlwytho'r ffurflen gwybodaeth y sganwyr diogelwch

Bagiau llaw

Mae gan deithwyr bellach hawl i gario mwy nag un bag llaw o Faes Awyr Caerdydd.

Serch hynny mae gan gwmnïau awyrennau eu polisïau eu hunain ac felly rydym yn eich cynghori i ofyn i'ch cwmni awyrennau neu eich hasiantaeth deithio am eu rheolau ynglyn â chario bagiau llaw cyn hedfan.

Cysylltwch â’ch cwmni cyn cychwyn i’r maes awyr, ond ni chaiff y bag llaw fod YN FWY na:

  • 56 cm o hyd (tua 22 modfedd)
  • 45 cm o uchder (tua 17.5 modfedd)
  • 25 cm o ddyfnder (tua 9.85 modfedd)

Gall y mesuriadau fod yn llai gan rai cwmniau awyrennau. Cysylltwch â’ch cwmni cyn gadael am y maes awyr i sicrhau nad ydy eich bag llaw yn rhy fawr i gael ei dderbyn ar yr awyren.

Yn ychwanegol, rhoddir caniatâd i bob teithiwr gario un offeryn cerddorol mewn cês ond ni cheir gario unrhyw beth heblaw am yr offeryn ac atodiadau cysylltiedig â’r offeryn yn y cês.

Mae’n rhaid i bob gliniadur ac unrhyw eitem electronig arall gael eu tynnu o’r bag llaw a’u gosod mewn blwch ar wahân i fynd drwy’r System Ddiogelwch.

Caniateir pramiau a chynorthwyon cerdded, ond fe fyddant yn cael eu sganio gan belydr x. Caniateir cadeiriau olwyn, ond fe fyddant yn cael eu harchwilio yn fanwl.

Mae yna mwy o wybodaeth am eitemau na chaniateir ac eitemau y ceir eu cario mewn bag llaw ar gael ar dudalen cyfyngiadau ar fagiau llaw.

Hylifau

Rydym yn argymell eich bod yn cario unrhyw hylifau (gan gynnwys gel, pâst, hufen croen, cymysgedd hylif/soled, a cynhwysyddion gwasgeddedig) yn eich cês gan fod rheolau llym ynglyn â’u cario drwy’r System Ddiogelwch.

Os yw’n hanfodol i chi gario’r eitemau hyn drwy’r System Ddiogelwch, ni cheir gario mwy na deg cynhwysydd 100ml mewn bag plastig clir y gellir ei ail selio (gwelir y llun), ac mae’n rhaid ei ddangos ar wahân i’ch bag llaw wrth fynd drwy’r System Ddiogelwch.

Yr unig eithriadau yw meddyginiaeth ar gyfer y daith, gyda Llythyr Meddyg ynghlwm ag ef, neu laeth i fabanod, ac mae’n rhaid i'r rhiant/gwarchodwr ei flasu wrth fynd drwy’r System Ddiogelwch.

Mae Maes Awyr Caerdydd yn annog teithwyr sy’n paratoi i deithio i ddarparu ac, yn y pen draw, i ailgylchu eu bagiau eu hunain. Mae bagiau plastig y gellir eu hail-selio ac sy’n cyfarfod â gofynion y Llywodraeth ar gael o nifer o ffynonellau masnachol a dylid eu prynu cyn cyrraedd y maes awyr.

Lawrlwythwch ffurflen gwybodaeth safonau'r Gymuned Ewropeaidd

Cesus wedi eu cofrestru

Mae'r bagiau y canieteir eu cario ar awyrennau rheolaidd a siarter yn amrywio. Cysylltwch â'ch asiantaeth deithio neu eich cwmni awyrennau cyn teithio i'r maes awyr.

Dylech rybuddio’r cwmni awyrennau, asiantaeth trin y cesus neu eich asiantaeth deithio ymhell o flaen dyddiad eich taith os oes gennych gês mawr iawn neu gês siâp anarferol. Dylech hefyd ganiatau mwy o amser i gofrestru.

Cliciwch yma i weld rhestr o eitemau a waharddwyd

Teithio gyda babanod a phlant bach

Mae llaeth a bwyd babanod yn cael eu hystyried yn eitemau hanfodol ac felly gallwch gario’r llaeth mewn poteli sy’n dal mwy na 100ml yn eich bag llaw os oes angen. Serch hynny, mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi ei flasu.

Rydym yn annog rhieni i gario’r bwyd mewn jar yn hytrach na charton gan ei bod yn haws eu cau a’u hail-selio. Caniateir clytiau a weipiau ond rhaid rhoi unrhyw hufen, past, eli neu gel mewn cynhwysydd heb fod yn fwy na 100 ml, a’i roi mewn bag plastig clir y gellir ei ail selio nad yw’n dal mwy na litr, yr un fath â’r cyfyngiadau ar hylifau eraill.

Gallwch roi jariau o fwyd a chartonau o laeth yn eich cês. Ceir fynd â phramiau trwy’r System Ddiogelwch, ond fe fydd gofyn i chi afael yn eich baban am ychydig funudau er mwyn i’r pram gael ei roi trwy’r peiriant pelydr-x.

Cyngor diogelwch

  • Peidiwch byth â gadael cesus neu eiddo personol heb eu goruchwylio. Byddant yn cael eu symud ac o bosib, eu difa. Dylid rhybuddio aelod o’r staff os gwelwch unrhyw eiddo sydd heb ei oruchwylio
  • Dylech bob amser ddefnyddio eich bag eich hun gan ofalu ei bacio eich hun
  • Dylech bob amser ateb pob cwestiwn am eich bagiau wrth gofrestru. Mae’r drefn yma yn holl bwysig ac yno er mwyn eich diogelwch chi
  • Gallai unrhyw sylwadau anaddas olygu na fyddwch yn cael mynd ar yr awyren. Mae’n drosedd i ddatgan manylion celwyddog
  • Peidiwch byth â chofrestru bagiau pobl eraill
  • Peidiwch byth â chario dim byd i’r awyren ar ran rhywun arall
  • Dylai eich enw a’ch chyfeiriad cartref fod y tu mewn i’ch cesus, ynghyd â’ch enw a manylion pen eich taith ar y tu allan
  • Dylech ddal eich gafael mewn arian, gemwaith, camerâu a phethau gwerthfawr eraill – peidiwch â’u rhoi yn y cesus sy’n cael eu cofrestru
  • Dylech gario sieciau teithio a chardiau credyd yn hytrach na symiau sylweddol o arian parod
Vueling

20

Chw

Newyddion Diweddaraf:

Cardiff Airport’s half term getaway Arrow

Popular connections revealed...

16

Chw

Newyddion Diweddaraf:

Celebrate Chinese New Year with KLM from Cardiff Arrow

Fly to 32 Chinese destinations on your doorstep...

9

Chw

Newyddion Diweddaraf:

Blue Islands flights from Cardiff to Guernsey return for summer 2018 Arrow

Flights start 29 May 2018 ...

2

Chw

Newyddion Diweddaraf:

Over 15,000 set to fly through Cardiff for the Six Nations Arrow

With the first match of the Six Nations this weekend, Cardiff Airport, the national airport for Wales will welcome over 15,000 extra passengers ...

24

Ion

Newyddion Diweddaraf:

Annual Update marks another successful year at Wales’ national airport Arrow

Cardiff Airport has ended another watershed year in 2017 with an increase of 9% in passenger ...

18

Ion

Newyddion Diweddaraf:

Vueling summer flights from Cardiff take off Arrow

The airline will offer almost 190,000 seats this summer season to four Spanish destinations: Malaga, Alicante, Barcelona and Palma ...

12

Ion

Newyddion Diweddaraf:

Super Break Takes-off from Cardiff Airport to Iceland for First Time Arrow

Cardiff holidaymakers boarded the exclusive direct flight from Cardiff Airport to Akureyri Local travellers were able to fly to a destination ...

9

Ion

Newyddion Diweddaraf:

New flights and holidays to Antalya for Welsh holidaymakers Arrow

TUI adds Antalya, Turkey to summer programme from Cardiff Airport...

8

Ion

Newyddion Diweddaraf:

Businesses in Pembrokeshire to learn about benefits of new Qatar air link Arrow

Bridge Innovation Centre 24 January 2018...

28

Rha

Newyddion Diweddaraf:

Recruitment day at Cardiff Airport Arrow

Tuesday 23 January 2018...

Arrow
Arrow