Eich taith ddiogel

Mae angen i bob cwsmer sy’n mynd trwy’r Maes Awyr fynd drwy ein prosesau diogelwch. Mae pob bag sy’n mynd i howld yr awyren yn cael ei sgrinio gan beiriannau pelydr-x.  Gwaherddir rhai eitemau rhag cael eu cynnwys mewn bagiau yn yr howld – mae rhestr lawn ar gael drwy  lawrlwytho’r rhestr o eitemau cyfyngedig.

Pan fyddwch yn cyrraedd yr ardal archwilio er diogelwch, gofynnir i chi ddangos eich cerdyn byrddio – gall hwn fod yn un electronig ar ap eich cwmni hedfan neu’n gerdyn byrddio papur.

Yn yr ardal baratoi, gofynnir i chi dynnu popeth o’ch pocedi a thynnu eich gwregys. Os ydych yn gwisgo cot gnu, siaced, siwmper drwchus neu got gofynnir i chi ei thynnu a’i gosod mewn hambwrdd.  Mae’n bosibl y bydd gofyn i chi dynnu’ch esgidiau. Bydd rhaid tynnu esgidiau mawr. Gwaherddir cario rhai eitemau mewn bagiau llaw – mae rhestr lawn ar gael yma

Dylid pacio bwyd neu bowdrau (heblaw am hylifau, geliau neu bastau) yn y bagiau fydd yn mynd i’r howld os yn bosib. Er bod caniatâd i’r eitemau yma fod mewn bagiau llaw, gallant rwystro delweddau ar y peiriant pelydr-x, neu efallai bydd gofyn iddynt gael eu gwirio ymhellach: os oes raid i chi fynd â’r rhain ar fwrdd yr awyren dylech ganiatáu amser ychwanegol yn yr ardal ddiogelwch.

Os fydd gennych goets baban bydd gofyn iddi gael ei phlygu a’i sgrinio drwy’r peiriant pelydr-x. Mae’n rhaid i offerynnau cerdd hefyd gael eu sgrinio.

Dylid rhoi’r holl eitemau hyn mewn hambwrdd, ynghyd â’ch hylifau sydd wedi’u pacio’n gywir ac unrhyw eitemau trydanol mawr e.e. gliniaduron, dyfeisiau tabled a dyfeisiau e-ddarllen. Ni chaiff eitemau miniog nac offer gael eu cario mewn bagiau llaw.

Gofynnir i gwsmeriaid fynd drwy ddatgelydd metel neu’r sganiwr diogelwch. Os oes gennych reoliadur y galon – byddwch cystal â rhoi gwybod i ni cyn mynd drwy unrhyw offer sganio.

Os oes gennych gyflwr meddygol neu anabledd byddwch cystal â  chysylltu â ni o flaen llaw os oes gennych unrhyw gwestiwn: mae gennym Dîm Cymorth ymroddedig a fydd yn hapus i helpu. Am fwy o wybodaeth, gallwch hefyd gyfeirio at Gerdyn Ymwybyddiaeth Meddygol yr AHS yma.

Yn rhan o’r broses ddiogelwch, mae’n bosibl y bydd gofyn gwneud archwiliadau eraill arnoch a fydd yn cael eu gweithredu gan aelod o’r tîm, naill ai â llaw, datgelydd metel llaw neu offer darganfod olion ffrwydrol. Unwaith y bydd hyn wedi’i gwblhau bydd modd i chi gasglu’ch bagiau.

Bydd pob bag yn cael ei sgrinio gan belydr-x, serch hynny byddwn yn cynnal hapwiriadau a allai gynnwys archwilio â llaw, defnyddio swab i ddarganfod olion ffrwydrol a phrofi rhai hylifau, geliau neu bastau.

Gweithredir y prosesau hyn yn unol â deddfwriaeth yr UE a’r DU.

Gall ardaloedd diogelwch fod yn hynod frawychus i rai o’n cwsmeriaid – ac rydym yn hapus i egluro’r prosesau ymlaen llaw er mwyn eich paratoi ar eu cyfer – mae hyn yn arbennig o bwysig os ydych yn teithio gyda phlant bach neu’r bobl hynny sydd angen ychydig mwy o gymorth neu fwy o amser.

Os fyddwch yn teithio gyda chi tywys – dylech yn gyntaf gysylltu â’ch cwmni hedfan.

Am fwy o wybodaeth am ddiogelwch a chymorth arbennig byddwch cystal â mynd i’n tudalen bwrpasol.

 

23

Rha

Newyddion Diweddaraf:

Cardiff Airport invites passengers to join PRM and Disability Forum Arrow

The Cardiff Airport PRM (Passengers with Reduced Mobility) & Disability Forum will be reconvening after being paused due to the pandemic.

19

Rha

Newyddion Diweddaraf:

Ryanair to offer UK domestic route into Cardiff – twice-weekly service from Belfast Arrow

Ryanair will be offering yet more flights from Cardiff Airport next summer, as the airline will provide twice-weekly, year-round flights to Belfast, ...

28

Tac

Newyddion Diweddaraf:

Ryanair to offer more flights through Cardiff next year – 22 weekly flights to Dublin, Algarve and Costa del Sol Arrow

Ryanair will be offering more flights to Ireland and Spain from Cardiff Airport next summer as the airline will offer daily flights to Dublin, as ...

25

Tac

Newyddion Diweddaraf:

Cardiff Airport attracts extra Six Nations flying from Dublin with Ryanair Arrow

Ryanair will be offering more seats between Ireland and Wales next February as the airline will add extra flights linking Dublin and Cardiff to ...

25

Tac

Newyddion Diweddaraf:

Cardiff Airport attracts extra Six Nations flying from Dublin with Ryanair Arrow

Ryanair will be offering more seats between Ireland and Wales next February as the airline will add extra flights linking Dublin and Cardiff to ...

24

Tac

Newyddion Diweddaraf:

Ryanair to offer more flights through Cardiff next year – 22 weekly flights to Dublin, Algarve and Costa del Sol Arrow

Ryanair to offer more flights through Cardiff next year – 22 weekly flights to Dublin, Algarve and Costa del Sol Ryanair will be offering more ...

24

Tac

Newyddion Diweddaraf:

Ryanair to offer more flights through Cardiff next year – 22 weekly flights to Dublin, Algarve and Costa del Sol Arrow

Ryanair will be offering more flights to Ireland and Spain from Cardiff Airport next summer as the airline will offer daily flights to Dublin, as ...

28

Hyd

Newyddion Diweddaraf:

Cardiff Airport welcomes Aer Lingus Regional's extra Belfast seats for Summer 23 Arrow

Cardiff Airport welcomes Aer Lingus Regional’s extra Belfast seats for Summer 23 In response to strong demand over the ...

21

Med

Newyddion Diweddaraf:

Cardiff Airport to expand winter offer with Ryanair flights to Faro Arrow

Cardiff Airport will have additional winter sun seats on sale following the announcement that Ryanair will extend its existing twice-weekly Faro ...

8

Med

Newyddion Diweddaraf:

Cardiff Airport gains first ever Romanian route and resumption of Italy services with Wizz Air this winter Arrow

Cardiff Airport is pleased to confirm direct flights to Italy again and the first ever regular connection to Romania from Wales.

Arrow
Arrow