Ymlaciwch wrth y bar preifat gydag amrywiaeth o ddiodydd alcoholaidd a di-alcohol, a mwynhau tamaid ysgafn i'w fwyta o'n detholiad o gynnyrch lleol wrth ddarllen un o'r nifer o bapurau a chylchgronau busnes am ddim.
Os y dymunwch defnyddio'r Wi-Fi am ddim cewch ofyn am y cod yn y dderbynfa neu gael newyddion diweddaraf y dydd cyn i chi hedfan. Byddwch hefyd yn gallu defnyddio cyfleusterau preifat.
Os ydych yn teithio ar fusnes mae'r Lolfa Foethus yn cynnig cyfleusterau ffôn, ffacs a llungopïo a derfynellau rhyngrwyd i'w defnyddio am ddim yn ogystal a Wi-Fi.
Mae'r Lolfa yn agored o 0500 tan 2100 bob dydd ar wahân i ddyddiau Sadwrn rhwng mis Tachwedd ac Ebrill pan fyddwn yn cau am 1700. Rydyn ni ar gau ar Ddiwrnod Nadolig.
Cofiwch hefyd bod cyfleusterau cymorth arbennig ar gael yn y Lolfa Foethus.
Mae Maes Awyr Caerdydd yn cadw'r hawl i ofyn i westeion adael y Lolfa os bydd lefel y sŵn yn codi.
Bydd partïon neu grwpiau mawr o 7 neu fwy oedolyn sydd yn ymweld a'r Lolfa heb awdurdod o flaen llaw, neu mwy nag un grwp bach sydd yn ffurfio un grwp mawr yn cael ei ofyn i adael os nad oes awdurdod ymlaen llaw.
Oherwydd diogelwch hedfan, awgrymir i ymwelwyr gael mwyafrif o dau ddiod.
Mae gwisg smart hamddenol neu wisg busnes yn ofynnol, ac rydym yn cadw'r hawl i wrthod mynediad i unrhyw berson sydd wedi ei wisgo mewn modd nad ydym yn ystyried sy'n briodol. Caniateir trowsusau bach wedi eu teilwra, ond os gwelwch yn dda peidiwch â gwisgo dillad chwaraeon, lliwiau chwaraeon, dillad cuddliw, eitemau sy'n arddangos llengig merched neu ysgwyddau dynion, neu eitemau sydd â sloganau all achosi tramgwydd.
Y cyfanswm yr allwch aros yn y Lolfa foethus ydy tri awr.
I weld telerau ac amodau'r Lolfa Foethus cliciwch yma.