Bydd Flybe, cwmni awyrennau rhanbarthol mwyaf Ewrop, ar ddydd Llun Gŵyl y Banc hwn (31 Awst 2015), yn dathlu dechrau llwybr newydd gydol y flwyddyn rhwng Caerdydd a Munich yn ogystal ag ychwanegu 22 o deithiau hedfan ychwanegol at saith o’r llwybrau allweddol presennol sydd ganddyn nhw o ganlyniad i ddyfodiad eu hail awyren jet Embraer 195 gyda 118 sedd i gael ei lleoli yn y Maes Awyr. I nodi’r achlysur, mae cynllun ar droed i roi profiad bywiog a lliwgar, Almaenig ei naws i deithwyr ei fwynhau ar ôl iddyn nhw gofrestru.
Bydd y teithiau newydd nôl a blaen i Munich ar gael ar ddyddiau Llun, Mercher, Iau, Gwener a Sadwrn, gyda thocynnau un ffordd ar gael o 44.99 bob ffordd yn cynnwys trethi a chostau. Mae’r llwybr newydd yma’n ychwanegiad at rwydwaith eang gydol y flwyddyn y cwmni awyrennau yn dilyn agor ei ganolfan newydd ym Maes Awyr Caerdydd ym mis Mehefin.
CAERDYDD (CWL) – MUNICH (MUC) Amserlen haf mewn grym 31 Awst – 24 Hydref 2015
Llun/Mer/Iau/Gwe
Gadael CWL 1410 Cyrraedd MUC 1700 Gadael MUC 1735 Cyrraedd 1835
Sad
Gadael CWL 0950 Cyrraedd MUC 1245 Gadael MUC 1315 Cyrraedd 1415
Dyma uchafbwyntiau ychwanegu at amlder teithiau Flybe ar y llwybrau presennol yn dilyn dyfodiad yr ail E-jet:
Bydd teithiau hedfan i Chambery a Genefa’n weithredol unwaith eto yn ystod y gaef, gyda theithiau wythnosol ar y Sadwrn yn dechrau ar 19 Rhagfyr, a fydd yn dod â chyfanswm nifer cyrchfannau Flybe o Gaerdydd i 13. Mae manylion diweddaraf amserlen newydd yr holl lwybrau o Gaerdydd ar gael ar www.flybe.com
Meddai Paul Simmons, Prif Swyddog Masnachol Flybe: “Ry’n wedi’n plesio’n arw gyda maint y gefnogaeth gawson ni i’n llwybrau newydd o Gaerdydd ers agor ein canolfan newydd. Rwy’n hynod falch ein bod nawr yn cynyddu’n presenoldeb gyda’r llwybr agoriadol yma i Munich a gyda’r niferoedd ychwanegol ry’n ni nawr yn eu cynnig ar saith o’n llwybrau mwyaf poblogaidd.”
Ychwanegodd Debra Barber, Rheolwr Gyfarwyddwr Maes Awyr Caerdydd: “Mae’n gyffrous iawn i ni weld yr ail awyren yn cyrraedd; bydd yn wirioneddol gryfhau rhwydwaith Flybe gyda mwy o ddewisiadau i gwsmeriaid gan gynnig hwylustod a gwerth am arian. Mae cynyddu nifer y teithiau ar lwybrau allweddol ac ychwanegu Munich yn arbennig o fuddiol i’r rhai sy’n teithio nôl a blaen o Gymru ar fusnes. Mae tri mis cyntaf canolfan newydd Flybe wedi profi y bydd cwsmeriaid yn dewis Caerdydd ac ry’n ni’n hyderus y bydd y ganolfan yn parhau i ffynnu gan fod yr ail awyren wedi cyrraedd erbyn hyn.”