Mae Maes Awyr Caerdydd wedi adrodd ar flwyddyn allweddol i Faes Awyr cenedlaethol Cymru yn y flwyddyn ariannol yn gorffen ym mis Mawrth 2018. Gyda chynnydd o 9% yn nifer y teithwyr, mae’r Maes Awyr hefyd wedi cryfhau ei sefyllfa ariannol i ddangos EBITDA cadarnhaol am y tro cyntaf mewn wyth mlynedd.
Roedd nifer y teithwyr yn sefyll ar 1.488 miliwn ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2017-18, yn dilyn twf o 16% yn 2016, sy’n golygu bron i 50% o dwf yn nifer y teithwyr ers i Faes Awyr Caerdydd ddod o dan berchnogaeth gyhoeddus yn 2013.
Llwyddwyd i gynyddu nifer y teithwyr drwy ychwanegu teithiau hedfan newydd neu amlach i gyrchfannau poblogaidd yn cynnwys Madrid gydag Iberia Express, Guernsey gyda Blue Islands, y naill yn gwmnïau hedfan newydd – ynghyd â Rhufain gyda Flybe a Ffaro gyda Ryanair ymhlith eraill. Cynyddwyd amlder y teithiau hedfan hefyd ar wasanaethau craidd busnes a hamdden megis i Belffast (City) gyda Flybe, gyda thaith ddwyffordd ddwywaith y dydd yn ystod yr wythnos a mwy o deithiau i Sbaen gyda Vueling. Cynyddodd KLM hefyd y capasiti ar lwybr Caerdydd-Amsterdam drwy ddefnyddio awyren Embraer 175.
Gyda chanolbwynt parhaol ar wneud cynnydd yng nghynaliadwyedd ariannol y cwmni llwyddodd y Maes Awyr ennill EBITDA (enillion cyn llog, treth, dibrisiad ac amorteiddiad) cadarnhaol sydd yn fesur o berfformiad gweithredol cwmni. Dyma’r tro cyntaf i ganlyniad cadarnhaol gael ei sicrhau mewn wyth mlynedd, gan wella’r canlyniad o un flwyddyn i’r llall o £897,000.
Rhai o uchafbwyntiau blwyddyn ariannol 2017-18:
Camp sylweddol y llynedd oedd cyhoeddi gwasanaeth dyddiol i’r Dwyrain Canol a lansiwyd ar 1 Mai 2018. Mae gwasanaeth Qatar Airways, sy’n gweithredu ar awyren Boeing 787 Dreamliner, yn cysylltu Cymru a De Orllewin Lloegr â marchnadoedd allweddol byd-eang ledled Awstralia, Affrica ac Asia drwy ganolfan Maes Awyr Rhyngwladol Hamad yn Doha, Qatar.
Meddai Roger Lewis, Cadeirydd Maes Awyr Caerdydd: “Roedd 2017 yn flwyddyn allweddol i Faes Awyr Caerdydd, gyda’r cynnydd o 9% yn nifer y teithwyr ar ben y twf o 16% yn 2016 yn ganolog.
“Roeddem yn canolbwyntio ar wella’n perfformiad busnes yn sylweddol ac ar yr un pryd yn cyfleu disgwyliadau gwasanaeth ein cyfranddalwyr, ein rhanddeiliaid a’n cwsmeriaid. Yn dilyn hynny rydym wedi cryfhau sefyllfa ariannol y cwmni ac wedi gwella enw da a statws y Maes Awyr. Rydym wedi profi twf parhaol, wedi cwblhau’r cynlluniau ar gyfer dechrau’r gwasanaeth 5* gan Gludwr o’r Dwyrain Canol, wedi gwella profiad y cwsmer ac wedi gweld y Maes Awyr yn cael ei ystyried yn arwyddocaol ac yn amlwg mewn cynllunio economaidd cenedlaethol a rhanbarthol a thrafnidiaeth integredig.
“Er hynny, rydym yn cydnabod fod llawer mwy i’w wneud gennym o hyd, ond fe fyddwn yn tynnu sylw at y llwyddiant parhaol a gafwyd hyd yma gan dîm y Maes Awyr ac ar ran y Bwrdd hoffwn ddiolch iddynt a’u llongyfarch am eu gwaith caled a’u llwyddiannau dros y 12 mis diwethaf.
“Rydym yn canolbwyntio ar adeiladu ar y perfformiad ariannol sylweddol well hwn yn y flwyddyn ariannol gyfredol 2018/19. Byddwn yn cyflawni twf dau ddigid a gwella profiad y teithiwr hyd yn oed yn fwy.”
Ychwanegodd Deb Barber, Prif Swyddog Gweithredol Maes Awyr Caerdydd: “Bu 2017 yn flwyddyn o gynnydd arwyddocaol i Faes Awyr Caerdydd. Rydym wedi croesawu cwmnïau hedfan newydd, wedi ychwanegu at y dewis o gyrchfannau i’n cwsmeriaid ac wedi buddsoddi mwy hyd yn oed yn y derfynfa er mwyn gwella eu profiad.
“Rydym wedi canolbwyntio ar ddatblygu ein prosesau ynglŷn â phobl a systemau Adnoddau Dynol, gan gydnabod twf ein tîm a’r rôl bwysig sydd ganddynt wrth yrru’r cwmni yn ei flaen.”
“Mae cyflenwi safonau uchel o ddiogelwch a chydymffurfiad rheoleiddio yn parhau i fod yn ganolbwynt allweddol gennym. O weithio gyda’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE), rydym wedi cryfhau ymhellach ein prosesau a’n gweithdrefnau diogelwch gan hefyd barhau i ganolbwyntio ar gynaliadwyedd amgylcheddol.
“Mae’r busnes yn tyfu’n gryfach ac rydym mewn sefyllfa dda i gyfleu ein gweledigaeth a’n cenhadaeth o gynhyrchu budd economaidd arwyddocaol i Gymru.”
Ym mis Gorffennaf 2018 lansiodd Maes Awyr Caerdydd yr Uwchgynllun drafft oedd yn gosod gweledigaeth y Maes Awyr hyd at 2040 a chynlluniau uchelgeisiol i ddatblygu busnes y Maes Awyr dros yr 20 mlynedd nesaf fel porth allweddol i’r DU. Wedi adolygu adborth ymgysylltu â’r cyhoedd bwriedir cyhoeddi’r Uwchgynllun terfynol yn ddiweddarach yn 2018.
Uchafbwyntiau hyd yma ym mlwyddyn ariannol 2018-19:
Wedi eu cadarnhau hyd yma ym mlwyddyn ariannol 2019-20: