Gofynnir i gwsmeriaid wirio canllawiau Llywodraeth Cymru ynghylch teithio a chyngor y Swyddfa Dramor a Chymanwlad ar deithio. Os byddwch yn hedfan, sicrhewch fod y ddogfennaeth gywir gennych i deithio, yn cynnwys y ffurflen datgan teithio rhyngwladol, a’ch bod yn gwirio gofynion y mynediad i’ch cyrchfan. Am fwy o wybodaeth am brofi COVID-19, cliciwch yma.
Teithiwch yn hyderus drwy Faes Awyr Caerdydd
Diogelwch ein tîm a’n cwsmeriaid yw ein prif flaenoriaeth.
Yn awr yn fwy nag erioed, rydym am sicrhau bod pawb yn teimlo’n ddiogel wrth deithio drwy Faes Awyr Caerdydd, ac rydym wedi bod yn gweithio gyda’n holl bartneriaid yn cynnwys cwmnïau hedfan, siopau, caffis a bwytai, yn ogystal â Llu Ffiniau’r DU i sicrhau ein bod i gyd yn gweithio gyda’n gilydd i gyflawni hyn.
Mae’r tîm wedi bod yn gweithio ers wythnosau i gael y Maes Awyr yn barod i dderbyn teithwyr eto felly gallwch deithio’n hyderus.
Rydym wedi cymryd camau pellach na chanllawiau Llywodraethau Cymru a’r DU gan roi’r mesurau canlynol ar waith:
Mae’r sefyllfa’n newid yn barhaus a byddwn yn parhau i gadw cysylltiad agos â’r awdurdodau perthnasol yn y Llywodraeth a’n partneriaid yn y cwmnïau hedfan i gael y cyngor a’r wybodaeth ddiweddaraf am deithio i Faes Awyr Caerdydd ac oddi yno.
Diogelwch ein tîm a’n cwsmeriaid sy’n parhau i fod ein prif flaenoriaeth.
Cliciwch y fideo i ddarganfod mwy am y mesuriadau newydd sydd yn ei le dros y Maes Awyr
Cliciwch yma ar gyfer cymorth Llywodraeth Cymru
Mae mwy o wybodaeth a Chwestiynau Cyffredin i’w gweld isod.
Yn awr yn fwy nag erioed, rydym am sicrhau bod pawb yn teimlo’n ddiogel wrth deithio drwy Faes Awyr Caerdydd, ac rydym wedi bod yn gweithio gyda’n holl bartneriaid yn cynnwys cwmnïau hedfan, siopau, caffis a bwytai, yn ogystal â Llu Ffiniau’r DU i sicrhau ein bod i gyd yn gweithio gyda’n gilydd i gyflawni hyn.
Cliciwch yma i weld rheoliadau teithio diweddaraf Llywodraeth Cymru
Fel bob amser, rydym yn argymell bod pob teithiwr yn parhau i wirio gyda'u cwmni hedfan am y wybodaeth ddiweddaraf, ac i wirio gofynion mynediad eu cyrchfan gan y gallai fod angen cyflwyno profion / dogfennaeth. Sylwch na dderbynnir profion GIG ar gyfer teithio.
Gall teithwyr ddefnyddio Pàs Covid y GIG i ddangos eu statws brechu ar eu ffôn, gliniadur neu gyfrifiadur llechen cyn teithio.
Mwy o wybodaeth am Bàs Covid y GIG
Bydd angen i chi barhau i ddilyn rheolau eraill wrth deithio.
Fel erioed, rydym yn cynghori’r holl deithiwr i barhau i gysylltu â’u cwmni hedfan i gael y wybodaeth ddiweddaraf am eu taith hedfan, ac i wirio gofynion mynediad i’w cyrchfan cyn teithio.
Arweiniad ‘Teithio’n Ddiogel’ i deithwyr sy’n mynd trwy Faes Awyr Caerdydd
Cynghorir pob cwsmer i wirio rheoliadau teithio perthnasol Llywodraeth Cymru am wybodaeth ynglŷn â theithio i mewn ac allan o Gymru, yn ogystal â chyngor y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu (FCDO) ynglŷn â theithio rhyngwladol. Cynghorir cwsmeriaid hefyd i gysylltu â’u cwmni hedfan i gael y wybodaeth ddiweddaraf am eu taith hedfan, ac i wirio canllawiau diogelwch y cwmni hedfan gan y gallant amrywio. Os ydych yn teithio, mae’n ofynnol i chi hefyd wirio gofynion mynediad i’r wlad y byddwch yn teithio iddi, ac unrhyw gyfyngiadau lleol sydd mewn grym. Mae mwy o wybodaeth ar gael drwy eich cwmni hedfan a gwefan yr FCDO. Gyda’r mesurau newydd sydd ar waith, rydym yn cynghori cwsmeriaid i ganiatau digon o amser i deithio trwy'r Maes Awyr.
Yn ogystal â’r newidiadau rydym wedi’u gwneud yn y Maes Awyr, i helpu i gadw pawb yn iach ac yn ddiogel, rydym yn gofyn i deithwyr wneud y canlynol:
Mae’n golygu bod gofynion gwahanol ar deithwyr yn dibynnu ar o ba wlad rydych wedi teithio.
Cliciwch yma i weld rheoliadau teithio diweddaraf Llywodraeth Cymru
Gall teithwyr ddefnyddio Pàs Covid y GIG i ddangos eu statws brechu ar eu ffôn, gliniadur neu gyfrifiadur llechen cyn teithio.
Mwy o wybodaeth am Bàs Covid y GIG
Bydd angen i chi barhau i ddilyn rheolau eraill wrth deithio, megis profi cyn ymadael. Gofynnir i gwsmeriaid wirio canllawiau Llywodraeth Cymru ynghylch teithio a chyngor y Swyddfa Dramor a Chymanwlad ar deithio.
Mae'roriaucyfyngedig ybyddsiopau asafleoeddarlwyo ynagored ynseiliedig ar yrhaglenhedfan. Mae peiriannau gwerthu ar gael ledled y derfynfa i brynu diodydd a byrbrydau.
Mae Lolfa Foethus 51° nawr wedi agor, yn amodol ar argaeledd. Diogelwch ein tîm a’n teithwyr yw ein prif flaenoriaeth ac rydym wedi rhoi nifer o fesurau diogelwch ar waith yn Lolfa Foethus 51°, yn cynnwys cyfyngu ar y niferoedd. Sylwch ei bod yn bosib y bydd y Lolfa’n cael ei chau ar unrhyw adeg ar fyr rybudd. Mae’r Lolfa Fusnes ar agor i deithwyr KLM gydag aelodaeth Aur, Platinwm neu Flying Blue.
Os ydych wedi rhagarchebu ac wedi talu am y Lolfa Foethus, byddwch cystal â chysylltu â’r cwmni a ddefnyddiwyd i osod yr archeb.Byddwch cystal â chysylltu â [email protected] os wnaethoch archebu’n uniongyrchol drwy wefan Maes Awyr Caerdydd. Bydd ad-daliadau’n cael eu prosesu cyn gynted ag y bo modd. Byddwch yn amyneddgar â ni wrth i ni brosesu ad-daliadau gan eu bod yn cymryd ychydig mwy o amser nag arfer.
Mae modd rhagarchebu parcio yn y meysydd Arhosiad Hir ac Arhosiad Byr.
Ar hyn o bryd nid yw parcio Cwrdd a Chyfarch ar gael nes clywir yn wahanol.
Os ydych wedi rhagarchebu a thalu am barcio car ymlaen llaw dylech gysylltu â’r cwmni a ddefnyddiwyd i osod yr archeb.
Os bydd eich taith hedfan yn cael ei chanslo neu os ydych wedi newid dyddiadau eich taith, cysylltwch â’r cwmni y gwnaethoch ddefnyddio i osod yr archeb.
Os wnaethoch archebu parcio gyda Holiday Extras, neu drwy wefan Maes Awyr Caerdydd, cysylltwch â 0871 360 1100.
Mae modd llogi car- rydym yn argymell i deithwyr ragarchebu cyn cyrraedd. Am wybodaeth ychwanegol cysylltwch â’r cwmni llogi ceir yn uniongyrchol.
Ydy, mae ein gwasanaethau TSC/Cymorth Arbennig ar gael os oes eu hangen arnoch. Mae ein desg TSC yn y neuadd gofrestru, ac mae’r fynedfa i’r dde o’r brif fynedfa i’r derfynfa. Os byddwch angen Cymorth Arbennig, byddwch cystal ag archebu hyn yn y dull arferol drwy eich cwmni hedfan neu eich trefnydd teithiau. Mae mwy o wybodaeth ar gael yma.
Mae'r bws 905 yn weithredol. Ewch i wefan NAT i weld amserlen a mwy o wybodaeth.
Ewch i wefan TRC u i gael mwy o fanylion ac amseroedd trenau.
Nid yw gwasanaeth bws Traws Cymru T9 rhwng y Maes Awyr a chanol Caerdydd yn weithredol ar hyn o bryd nes clywir yn wahanol.
Bydd ein partner ar y safle, Flightlink, yn gweithredu gwasanaeth tacsi ar gyfer teithiau hedfan fydd yn cyrraedd.. Ewch i’w gwefan am fwy o fanylion ac i archebu.
Mae ardaloedd ysmygu y tu allan i’r neuadd gofrestru.
Bydd y safle ysmygu ar ôl yr ardal ddiogelwch ar agor, ond gyda mesurau cadw pellter cymdeithasol mewn grym.
Os na fyddwch yn teimlo’n dda neu’n dangos unrhyw symptomau o COVID-19, byddwch cystal â pheidio â theithio i’r Maes Awyr. Serch hynny, os byddwch yn dechrau teimlo’n sâl yn y Maes Awyr byddwch cystal â rhoi gwybod i aelod o’n tîm a fydd yn gallu’ch helpu chi.
On arrival into the UK, you can use the eGates if:
Please visit the UK Border Force website for more information.