Beth yw Cynnig Newid i Awyrle?
Yn 2017, gorchmynnodd Yr Adran Drafnidiaeth i reoleiddiwr hedfan annibynnol y DU, Yr Awdurdod Hedfan Sifil (CAA), ddatblygu strategaeth i foderneiddio awyrle’r DU.
Mae strwythur awyrle’r DU - y rhwydwaith cymhleth o lwybrau sy’n sicrhau bod awyrennau’n hedfan yn ddiogel - wedi sefyll heb ei newid ers degawdau, ond yn union fel ein seilwaith ffyrdd a rheilffyrdd, rhaid i ni ddiweddaru’n seilwaith yn yr awyr er mwyn sicrhau bod pobl yn medru parhau i symud.
Cyhoeddwyd Strategaeth Moderneiddio Awyrle’r CAA ym mis Rhagfyr 2018 ac mae’n amlinellu’r gwaith sydd ei angen i foderneiddio awyrle’s DU, a pham. Ym Maes Awyr Caerdydd rydym yn cefnogi amcanion y fenter hon yn llwyr, sy’n cynnwys manteisio ar dechnoleg fodern i wneud teithiau ar awyrennau’n gyflymach, yn ddistawach ac yn lanach.
Mae Caerdydd yn un o 16 o feysydd awyr sydd yn rhan ddeheuol y DU, a elwir yn Weithredu Strategaeth Dyfodol Awyrle (FASI) - y De - sydd wedi cael ei yrru ymlaen i fod yn Gynnig Newid i Awyrle ffurfiol.
Yn gynharach eleni, cyflwynodd Maes Awyr Caerdydd ei Ddatganiad o Angen sydd ar gael i’w ddarllen ar borth y CAA ac sy’n amlinellu ein bwriad i wneud newidiadau i’r awyrle.