Fframwaith Hedfanaeth a’r Cynllun Datblygu Lleol

Y polisi cenedlaethol perthnasol yw Fframwaith Polisi Hedfanaeth 2013. Mae’n amlinellu y dylai Uwchgynlluniau a fabwysiadir ddarparu datganiad clir o fwriad ar ran gweithredwr maes awyr er mwyn gallu rhoi ystyriaeth ddyledus i ddatblygu’r Maes Awyr yn y dyfodol mewn prosesau cynllunio lleol. Hefyd, maen nhw’n darparu tryloywder ac yn helpu cynlluniau tymor hir defnyddwyr, buddsoddwyr a busnesau eraill.

Mae Llywodraeth y DU yn argymell bod meysydd awyr yn parhau i gynhyrchu Uwchgynlluniau, ac yn cael eu diweddaru o leiaf unwaith bob pum mlynedd. Dyma fydd ein Huwchgynllun cyntaf, a bydd yn parhau i gael ei ddiweddaru yn y dyfodol i helpu i ystyried polisïau ac arweiniad sy’n dod i’r amlwg.

Caeodd y ddogfen ymgynghorol ‘Tu hwnt i’r gorwel: Dyfodol hedfanaeth y Deyrnas Unedig – Galwad am dystiolaeth ar strategaeth newydd’ ym mis Hydref 2017. Bydd Llywodraeth y DU yn cynnal ymgynghoriad ar y manylion polisi ar gyfer holl amcanion y strategaeth yn ddiweddarach yn 2018, gan arwain at gyhoeddi Strategaeth Hedfanaeth y Deyrnas Unedig yn 2019.

Mae dyheadau’r Maes Awyr i wella ei gynnig hygyrchedd, cyflogaeth a masnachol o fewn Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn cyd-fynd yn dda gyda’r polisïau cynlluniau cenedlaethol. Yn benodol, mae Maes Awyr Caerdydd a’i Ardal Fenter wedi cael ei amlygu fel ardal o gyfleoedd strategol, gyda’r fframwaith polisi cenedlaethol yn cynorthwyo ei estyniad a’r datblygu cysylltiedig.

Mae’r polisi cynllunio lleol yn dyheu am weld ‘Dinas Maes Awyr’, ac mae Cyngor Bro Morgannwg yn rhagweld y bydd yn dod yn gyrchfan ar gyfer busnesau lleol a rhyngwladol, gan gynnwys: swyddfeydd o ansawdd uchel, addysg arbenigol, cyfleusterau hyfforddiant a datblygiadau hamdden. Mae Polisi Cynllun Datblygu Lleol MG10 yn disgrifio sut mae’r Cyngor yn rhagweld y bydd yr Ardal Leol yn cael ei datblygu, ac yn pwysleisio bod angen Uwchgynllun.

Nod Uwchgynllun y Maes Awyr yw creu cysylltiadau gwell â’r Maes Awyr fel rhan o rwydwaith drafnidiaeth integredig a chynaliadwy sy’n defnyddio’r tir yn gyflenwol er mwyn masnach, busnes a hedfanaeth, i helpu i ddarparu buddion economaidd, cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol. Yn benodol, bydd gwella cysylltiadau pobl, nwyddau, cyfleusterau a gwasanaethau yn helpu Llywodraeth Cymru a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd i gyflawni canlyniadau llwyddiannus er budd cenedlaethol. Gan ei fod yn cyd-fynd â buddsoddiadau a mentrau eraill fel y Metro, mae achos polisi cryf ar gyfer buddsoddi mewn gwell seilwaith strategol, cysylltiadau trafnidiaeth a chyfleoedd datblygu economaidd yn y Maes Awyr a’i Ardal Fenter.

 Ardal Fenter

Mae Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu Fframwaith Ddatblygu Strategol ar gyfer yr Ardal Fenter, sy’n ceisio cyflawni’r canlynol:

  • Ehangu’r Maes Awyr – i fodloni hyd at dair gwaith yn fwy na lefel y gweithgarwch presennol
  • Addysg, hyfforddiant ac Ymchwil a Datblygu – yn benodol, canolfan addysg a hyfforddiant awyrofod
  • Campws swyddfeydd awyrofod/y maes awyr
  • Cyfleusterau hamdden, cynadleddau a gwesty
  • Canolfan logisteg
  • Cyfnewidfa drafnidiaeth i gynorthwyo cynigion Metro Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn y dyfodol a chadw lle ar gyfer cysylltiadau rheilffordd posibl; a
  • Parc Ynni.

Y weledigaeth ar gyfer yr Ardal Fenter fydd:

“Canolfan ragoriaeth awyrenegol Ewrop, catalydd ar gyfer twf ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd, a phorth rhyngwladol sydd â chyfleusterau o safon fyd-eang, cyfleoedd a gweithlu medrus iawn o ansawdd uchel.”

Amcan yr Ardal Fenter yw helpu i wireddu dyhead Llywodraeth Cymru ar gyfer ehangu’r gwasanaethau awyr ym Maes Awyr Caerdydd, gan gryfhau ei rôl fel rhan o rwydwaith drafnidiaeth tymor hir, integredig a chynaliadwy yng Nghymru. Felly, mae’r Ardal Fenter hefyd yn ceisio cynorthwyo cynigion seilwaith mawr fel Metro Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, a gyflwynir gan Drafnidiaeth Cymru fel rhan o Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.

Prifddinas-Ranbarth Caerdydd

Mae’r Fargen Ddinesig, a gytunwyd yn 2016, yn fuddsoddiad o £1.28 biliwn ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd. Mae’n canolbwyntio ar dair prif thema, sef ‘Cysylltedd’; ‘Sgiliau’; ac ‘Arloesi a Thwf’ er mwyn datblygu economi’r rhanbarth, ac mae’r Fargen Ddinesig yn ceisio helpu i gyflawni gwelliannau ar draws pedair blaenoriaeth buddsoddi:

  1. Trafnidiaeth a chysylltiadau
  2. Adfer, adeiladau diwydiannol a thai
  3. Sgiliau a chyflogaeth; a
  4. Twf busnes ac arloesi.

Rhagwelir y gall ehangu Maes Awyr Caerdydd a’i gadwyn gyflenwi helpu Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i gyflawni’r blaenoriaethau hyn. Felly, mae llwyddiant yr Ardal Fenter, Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a’i Fargen Ddinesig yn hanfodol i’n helpu i gyflawni cyfleoedd twf economaidd sylweddol yn rhanbarthol ac yn genedlaethol, sy’n helpu i hwyluso a denu cyflogaeth a sgiliau. Mae Uwchgynllun y Maes Awyr yn elfen bwysig i’r cyfle hwnnw, lle bydd cysylltiadau gwell at gronfa ryngwladol o lafur, ymwelwyr a rhagolygon masnach yn helpu i greu swyddi a gwneud Cymru’n lle ffyniannus i fyw, gweithio a chwarae.

27

Meh

Newyddion Diweddaraf:

Cardiff Airport welcomes Aer Lingus back to Wales with Belfast City service Arrow

Thanks to Aer Lingus and its partner Emerald Airlines, Cardiff Airport is pleased to announce the resumption of flights to the important UK ...

12

Ebr

Newyddion Diweddaraf:

Cardiff Airport celebrates 10 years of flights with Vueling Arrow

Cardiff Airport and Vueling are celebrate 10 years of flights from Wales...

8

Ebr

Newyddion Diweddaraf:

Cardiff Airport welcomes new leading, low-cost carrier – Wizz Air Arrow

Wizz Air launches services from Cardiff Airport...

25

Maw

Newyddion Diweddaraf:

Summer Season delivers increased connectivity at Cardiff Airport Arrow

Summer Season delivers increased connectivity at Cardiff Airport...

25

Maw

Newyddion Diweddaraf:

Summer Season delivers increased connectivity at Cardiff Airport Arrow

Summer Season delivers increased connectivity at Cardiff Airport...

10

Chw

Newyddion Diweddaraf:

Cardiff Airport partners with SO Coffee to fuel passengers’ journeys Arrow

Cardiff Airport partners with SO Coffee to fuel passengers’ journeys...

20

Ion

Newyddion Diweddaraf:

Paris flights now on sale for a summer getaway with Vueling Arrow

Paris frequency increased to 3 flights per week...

18

Ion

Newyddion Diweddaraf:

DragonFly adds jet to its fleet of turboprops Arrow

DragonFly, the executive air charter company based at Cardiff Airport, has announced the addition of a Cessna Citation C550 Bravo jet to its ...

10

Ion

Newyddion Diweddaraf:

Cardiff Airport appoints new Aviation Development Manager Arrow

Marc Watkins will lead on Cardiff Airport's route development and airline partnerships. ...

22

Tac

Newyddion Diweddaraf:

Reserve & Collect service launches at Cardiff Airport Arrow

Passengers flying from Cardiff Airport can now enjoy a new Reserve & Collect service from World Duty Free.

Arrow
Arrow