Parcio â chymorth arbennig

Mae’r maes awyr wedi’i ymrwymo i ddarparu cymorth i deithwyr sydd angen cymorth arbennig, ac mae mannau parcio penodol ar gael yn y meysydd parcio arhosiad byr a hir.

Mae botwm cymorth ar gael wrth fynd i mewn ac allan o bob maes parcio, a dylai teithwyr sydd angen cymorth arbennig ei bwyso os ydynt am gael sylw aelod o staff. Mae ramp yn arwain o’r maes parcio arhosiad byr/busnes i’r brif derfynfa.

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth ar gyfer teithwyr sydd angen cymorth arbennig.

Mae’r prisiau yr un fath â phrisiau arferol y maes parcio arhosiad byr a hir.

 

 

Arrow
Arrow