Yr iaith Gymraeg: Ein gweledigaeth
Fel maes awyr cenedlaethol Cymru, maes awyr y brifddinas a phorth i’r Deyrnas Unedig, mae Maes Awyr Caerdydd yn wirioneddol falch o’i hunaniaeth Gymreig. Mae creu diwylliant gwaith a phrofiad i’r cwsmer sy’n adlewyrchu ein hymrwymiad i Gymru a’r iaith Gymraeg yn rhan annatod o’n brand.
Rydym yn falch o gael cynrychioli Cymru ac yn gweld yr iaith Gymraeg yn gyfle i gryfhau ein busnes. Yn ogystal, rydym yn adnabod y rhan gynhenid y gallwn ei gymryd drwy gefnogi a hyrwyddo yn weithredol y defnydd o’r iaith Gymraeg drwy gydol taith y cwsmer.
Ers i Lywodraeth Cymru gymryd perchnogaeth yn 2013, buom ar daith weddnewidiol gan ganolbwyntio’n bennaf ar ychwanegu mwy o lwybrau , mwy o gapasiti a chynyddu nifer y teithwyr er mwyn sicrhau busnes cynaliadwy i’r maes awyr. Yn y flwyddyn ariannol hon - 2019/20 – gwelwn bwyslais o’r newydd ar ein tîm a’n cwsmeriaid a bydd yr iaith Gymraeg yn cael ei hymgorffori yn y strategaeth gyffredinol ym mhob man cyswllt posibl. Mae’r Maes Awyr wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth dwyieithog i bob cwsmer, hyd yn oed y rhai na allant siarad yr iaith ond sy’n awyddus i weld a chlywed y Gymraeg, ac i roi’r cyfle i deithwyr i gyfathrebu â’r maes awyr drwy gyfrwng y Saesneg neu’r Gymraeg
Gyda chefnogaeth Comisiynydd yr Iaith Gymraeg, mae’r ddogfen hon yn nodi ein darpariaeth gyfredol ar gyfer yr iaith Gymraeg a nifer o amcanion realistig, cyflawnadwy y byddwn yn ceisio eu cyflawni dros y flwyddyn ariannol 2019/20; gan hefyd ganolbwyntio ar ein cynlluniau uchelgeisiol i ddarparu busnes maes awyr ffyniannus a chynaliadwy i Gymru.
Os hoffech wneud unrhyw sylwadau am y ddarpariaeth Gymraeg yn y maes awyr cysylltwch drwy ebost i [email protected] neu galwch 01446 711111.