Click here for more information and to apply.
Mae Maes Awyr Caerdydd yn rhan bwysig o seilwaith trafnidiaeth yng Nghymru ac yn gyfrannwr pwysig i’r economi leol, gan gynnal 2,400 o swyddi sy’n gysylltiedig â hedfanaeth. Fel maes awyr cenedlaethol Cymru, mae’n gyrru dros £246m o fudd economaidd uniongyrchol i’r rhanbarth bob blwyddyn gyda dros 30% o deithwyr yn ymwelwyr â’r wlad. Cyn COVID-19 roedd y cynnydd yn nifer y teithwyr wedi cyrraedd dros 50% ers i’r Maes Awyr ddod o dan berchnogaeth gyhoeddus yn 2013. Mae’r cynnydd hwn yn amlygu swyddogaeth y Maes Awyr nid yn unig fel safle ymadael, ond hefyd fel porth rhyngwladol allweddol i ymwelwyr â’r DU.
Drwy gydol pandemig COVID-19, mae maes glanio Maes Awyr Caerdydd wedi parhau’n agored gan ei fod yn hanfodol bwysig, fel rhan allweddol o’r seilwaith cenedlaethol, ei fod yn parhau mewn sefyllfa i gefnogi unrhyw hedfan angenrheidiol yn y DU, boed hynny’n gludo nwyddau, achosion brys, neu deithio hanfodol neu ddilys arall.
Mae maes glanio Sain Tathan hefyd yn cael ei reoli, ei weithredu a’i gynnal gan Faes Awyr Caerdydd , ac mae’n trin teithiau hedfan milwrol, hyfforddi a rhai heb deithwyr.
Mae dwy swydd wag, llawn amser ar gael o fewn y tîm Cyfleusterau ym Maes Awyr Caerdydd, maes awyr cenedlaethol Cymru, i ddechrau ar unwaith.
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn darparu ac yn cynorthwyo gyda darpariaeth Gwasanaethau Cynnal a Chadw Trydanol a Chyfleusterau (FM) ar ran Maes Awyr Caerdydd a Maes Glanio Sain Tathan a gweithredu fel rhan annatod o Dîm Cynnal a Chadw’r maes glanio a’r derfynfa. Eu prif ddiben fydd bod yn gyfrifol am helpu i gyfleu’n llwyddiannus y gyfundrefn cynnal a chadw sydd wedi’i chynllunio, gan fodloni rhwymedigaethau statudol diwydiant a hedfanaeth, gan hefyd ddarparu ymateb adweithiol i bethau sy’n torri i lawr sy’n cydweddu gofynion cwsmeriaid a sefydliadau fel ei gilydd mewn 2 faes glanio.
Rhaid i ymgeiswyr allu gweithio gyda’r gymuned i addysgu a chyfleu er budd y cyhoedd. Mae’r swydd ar gael i ymgeiswyr sy’n gallu dangos eu bod yn gallu gweithio’n effeithiol mewn amgylchfyd tîm, fod ganddynt sgiliau cyfathrebu cryf, hunanddisgyblaeth ac yn gallu gweithio mewn patrwm shifft sy’n cylchdroi.
Rhaid i ymgeiswyr fodloni’r meini prawf canlynol:
Cliciwch yma i lawrlwytho’r pecyn ymgeisio a’r swydd-ddisgrifiad:
I wneud cais, byddwch cystal ag anfon CV a llythyr cyflwyno i hr@cwl.aero.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 16 Ebrill 2021