Cysylltedd a hygyrchedd

Mae Maes Awyr Caerdydd yn cynnig mynediad rhyngwladol i Gymru ac mae’n borth allweddol i’r DU. Mae angen buddsoddiad sylweddol er mwyn gwella mynediad at y Maes Awyr, yn ogystal â gwella’r gweithrediad a’r seilwaith er mwyn cynyddu ei rôl a’r cyfleoedd posibl ar gyfer Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a thu hwnt.

Yn benodol, mae’r mynediad at y Maes Awyr wedi cael ei nodi’n aml yn ystod ymgynghoriaethau Llywodraeth Cymru fel problem, ac mae angen ystyried opsiynau ar gyfer gwella’r cysylltiadau i’r Maes Awyr ac oddi yno. Mae’r cynlluniau ar gyfer ffordd gyswllt Pendoylan a’r lôn bum milltir yn ceisio mynd i’r afael â’r broblem a amlygwyd fel rhan o’r ffocws ehangach ar wella’r cysylltiadau o fewn Bro Morgannwg a thu hwnt.

Fel rhan o ddatblygiad Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a’r Fargen Ddinesig sy’n cyd-fynd â hynny, mae galw mawr yn y byd gwleidyddol i wella’r cysylltiadau trafnidiaeth ar draws De-ddwyrain Cymru, gan ddiogelu ac ehangu cyfleoedd buddsoddi a chyflogaeth er mwyn helpu i gadw a denu poblogaeth fedrus. Rhagwelir y bydd buddsoddi o fewn y Maes Awyr ac o’i gwmpas yn helpu i sicrhau bod gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd gysylltiadau gwell, ac yn fwy deniadol a chystadleuol.

Mae gwelliannau i’r cysylltiadau trafnidiaeth yn y rhanbarth wedi’u cynllunio eisoes, a bydd y datblygiadau ym Maes Awyr Caerdydd yn helpu i fanteisio’n llawn ar y mentrau hyn ac ymateb i’w cyfleoedd a’u heriau. Er enghraifft, bydd trydaneiddio’r brif reilffordd Great Western, y Metro, cynllun ffordd osgoi’r M4 o gwmpas Casnewydd a dileu’r tollau ar bontydd Hafren yn helpu wrth gynorthwyo cystadleugarwch economaidd Cymru a gwasanaethu economi a chymdeithas ffyniannus a chysylltiedig.

Profiad y cwsmeriaid/teithwyr

Trwy gael dealltwriaeth well o’r ffordd rydych yn cyrraedd ac yn defnyddio ein Maes Awyr, gallwn gynllunio ein cynigion yn well.  

Mae’n bwysig i’n llwyddiant tymor hir bod pobl eisiau gweithio yn ein Maes Awyr, ymweld ag ef a’i ddefnyddio. Rydym eisiau creu lle deniadol, gweithredol a hyblyg. Mae’n hanfodol bod ein hadeiladau a’n seilwaith yn gweithredu yn y ffordd orau bosibl i fodloni eich anghenion gwahanol. 

Rydym eisiau gwneud y Maes Awyr mor hawdd â phosibl i gael mynediad ato, ei lywio a’i fwynhau. Fel rhan o’n cynigion, ein bwriad yw ymgorffori terfynfa newydd a modern gyda gwahanol ddewisiadau trafnidiaeth cynaliadwy. Mae ein Huwchgynllun arfaethedig yn ceisio sefydlu mannau gwahanol ar gyfer defnyddio tir mewn ffordd gyflenwol, â’r nod o wella cysylltiadau, symudiadau, gwerth a phrofiad y defnyddwyr cymaint â phosibl. 

Technoleg

Gan feddwl am y tymor hir, mae angen moderneiddio’r Maes Awyr presennol.

Er mwyn ymgorffori’r dechnoleg ddiweddaraf ar gyfer hedfanaeth, teithwyr a defnyddwyr eraill, mae angen i ni fuddsoddi mewn Maes Awyr newydd sy’n addas ar gyfer y diben.  

Rydym yn cynnig terfynfa newydd a modern, cyfleuster cargo a seilwaith drafnidiaeth carbon isel cynaliadwy.

Bydd yr elfennau hynny’n ein helpu i ddarparu’r diweddariadau technoleg sydd eu hangen yn well, er mwyn ein helpu i weithredu’n fwy effeithlon.  

Hefyd, byddwn mewn safle gwell i gynllunio ar gyfer datblygiadau technolegol yn y dyfodol o ran hedfanaeth, trafnidiaeth a gwasanaeth cwsmeriaid. 

20

Med

Newyddion Diweddaraf:

Cardiff Airport unveils its Environmental Flight Path Arrow

Our journey to become a carbon neutral Airport...

12

Med

Newyddion Diweddaraf:

More passenger growth for Cardiff Airport Arrow

The national airport for Wales has rounded off its busiest month of summer travel...

9

Med

Newyddion Diweddaraf:

News release: Loganair to launch Glasgow services from Cardiff Arrow

New airline will jet off from early 2020...

6

Med

Newyddion Diweddaraf:

Cardiff Airport statement: UK Government’s decision to block the devolution of Air Passenger Duty (APD) to Wales Arrow

Comment from our CEO...

2

Med

Newyddion Diweddaraf:

Balkan Holidays celebrates 40 years of flying holiday makers from Cardiff to Bulgaria Arrow

Leading tour operator Balkan Holidays is celebrating its 40th anniversary of flying Welsh holidaymakers from Cardiff to Bulgaria.

22

Aws

Newyddion Diweddaraf:

A busy Bank Holiday weekend for Cardiff Airport Arrow

The national airport for Wales is preparing to welcome over 27,000 passengers this Bank Holiday weekend.

13

Aws

Newyddion Diweddaraf:

Applications open for Cardiff Airport’s community action plan: The Touchdown Programme Arrow

Cardiff Airport has recently launched a new initiative to support the local community entitled ‘The Touchdown Programme.

8

Aws

Newyddion Diweddaraf:

Cardiff Airport reports busiest July in over a decade Arrow

In July alone, the Airport welcomed 208,322 customers – the busiest July since 2008.

30

Gor

Newyddion Diweddaraf:

Global Trek Aviation officially opens at Cardiff Airport Arrow

Global Trek Aviation will benefit from Cardiff Airport’s portfolio of facilities...

25

Gor

Newyddion Diweddaraf:

Homeless World Cup teams touch down in Cardiff Arrow

18 teams arriving...

Arrow
Arrow