Mae Maes Awyr Caerdydd yn gartref i ddau gwmni awyrennau preifat a chorfforaethol:
Dragonfly
+44 1446 711144
www.dragonflyac.com
Signature Flight Support
+44 1446 712637
www.signatureflight.com
I archebu slot glanio neu am fwy o wybodaeth cysylltwch â Dragonfly neu Signature yn uniongyrchol.
Noder: Mae Signature Flight Support bellach wedi symud swyddfeydd i ochr ddeheuol y maes awyr. Cysylltwch â Signature i gael cyfarwyddiadau neu wybodaeth bellach.
Mae canolfan hyfforddi Aeros hefyd wedi ymgartrefu ym Maes Awyr Caerdydd, cwmni sy'n cynnig gwersi a hyfforddiant ar gyfer trwydded peilotiaid PPL neu NPPL, wedi eu lleoli ar ochr ddeheuol y maes awyr.
Mae Aeros yn cynnig cyrsiau hyfforddiant JAA a CAA y DU, ac yn hyfforddi ar gyfer trwyddedau PPL, NPPL, graddio IMC a Chymhwyster Nos.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch ag Aeros trwy ffonio +44 1446 710000 neu ewch i www.aeros.co.uk.
Mae swyddfa Aeros wedi ei lleoli ar ochr ddeheuol y maes glanio. O Faes Awyr Caerdydd dilynwch arwyddion i bentref y Rhws, ar hyd Ffordd Porthceri. Ar y gylchfan yng nghanol y pentref ewch i'r dde ar hyd Ffordd Rhws (arwydd F.R.P 1). Dilynwch y ffordd i'w phen, a throwch i'r chwith cyn gatiau oren yr orsaf dân. Mae Aeros yn yr Adeilad Gwyn.