Os ydych yn dymuno tretio’ch hun i rywbeth arbennig neu angen cael anrheg neu ddau i’ch anwyliaid, mae gan ein siop World Duty Free amrywiaeth anhygoel o gynnyrch gan eich hoff frandiau yn cynnwys Lancôme, Estée Lauder a Burberry, Rayban, Gucci, Swarvoski a mwy am brisiau gwych.
O bersawrau safonol i sbectols haul ffasiynol, o ddiodydd moethus i anrhegion munud olaf, mae gan World Duty Free gannoedd o eitemau i’w prynu a hynny gydag arbedion gwych! Hefyd, gallwch ddarganfod cynnyrch Cymreig anhygoel gan fusnesau lleol- perffaith fel anrheg ar gyfer y person arbennig yna!
Archebu a Chasglu
Cewch siopa brandiau moethus, yn cynnwys cynnyrch unigryw i Archebu a Chasglu! Cewch ddewis o amrywiaeth eang o eitemau gan frandiau blaenllaw colur, persawr, diodydd a danteithion, yn cynnwys eitemau nad ydynt ar gael yn y siop yn y Maes Awyr. Mwynhewch brofiad siopa hwylus a chyfleus gyda dewis anhygoel am brisiau syfrdanol.
Sut mae’n gweithio:
Os ydych wedi anghofio’r eli haul, neu awydd tretio’ch hun i bethau i ddarllen ar y gwyliau, mae gan WHSmith a Iechyd a Harddwch Well yr hanfodion rydych eu hangen. Peidiwch anghofio prynu byrbrydau ar gyfer y daith ar yr awyren hefyd! Mae’r brif siop yn y neuadd Ymadael a chiosg wrth y man Cofrestru.