Mae toiledau cyhoeddus ar lawr cyntaf y brif derfynfa cyn mynd drwy'r system ddiogelwch ac yn y lolfa ymadael. Mae toiledau preifat hefyd ar gael i gwsmeriaid y lolfa foethus.
Mae toiledau ar gyfer teithwyr sy'n glanio yn y maes awyr yn y neuaddau bagiau mewnwladol a rhyngwladol, ac yn y derfynfa gyrraedd.
Mae toiledau anabl ym mhob un o'r cyfleusterau.
I’r rhai sy’n teithio â babanod, mae stafelloedd arbennig, preifat a chyfforddus ar gael, sy’n cynnwys byrddau newid clytiau. Mae’r stafelloedd hyn ar gael bob amser, ac wedi eu lleoli yn y lolfa ymadael a’r derfynfa gyrraedd.