Mae Maes Awyr Caerdydd yn dyheu i fod yn faes awyr rhagorol prifddinas sy’n cysylltu Cymru â’r Byd a’r Byd â Chymru, gan gynnig profiad arbennig i gwsmeriaid. Ein nod yw bod yn fusnes maes awyr cynaliadwy sy’n cynhyrchu budd economaidd i Gymru.  

I gefnogi ein dyheadau, rydym yn paratoi Uwchgynllun. Mae’r Uwchgynllun yn amlinellu ein cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer twf dros yr 20 mlynedd nesaf fel porth allweddol i’r DU.

Mae gennym rôl bwysig fel porth rhyngwladol ac fel grym mawr yn economi Cymru, gan ein bod yn cynnal 1,800 o swyddi’n ymwneud â hedfanaeth yn y Maes Awyr a 2,675 o swyddi’n uniongyrchol ac yn anuniongyrchol. Yr effaith Gwerth Ychwanegol Gros ar yr economi leol yw £102 miliwn, ac mae 30% o’n teithwyr yn ymwelwyr â Chymru.

Gan barhau ar ein taith drawsnewid, mae nifer y teithwyr wedi codi 9% yn y flwyddyn ddiwethaf, gyda dros 1.5 miliwn o deithwyr bellach yn dewis hedfan o Gaerdydd bob blwyddyn.

Mae 18 o gwmnïau hedfan yn defnyddio Maes Awyr Caerdydd yn rheolaidd, ac mae llawer o’r rhain wedi ychwanegu rhagor o gapasiti ar lwybrau presennol ac wedi cyflwyno cyrchfannau newydd. Ar hyn o bryd, rydym yn gwasanaethu:

  • 50 llwybr uniongyrchol
  • dros 900 o gysylltiadau
  • 11 llwybr i feysydd awyr mawr

O ran ein marchnad bosibl, mae’r ardal dalgylch graidd yng Nghymru yn cynnwys 2.4 miliwn o bobl, gydag ardal dalgylch eilaidd o 4 miliwn o bobl yn ne-orllewin Lloegr.

Rydym yn elwa ar ein lleoliad yn Ardal Fenter Sain Tathan a Maes Awyr Caerdydd, sy’n cynnig cyfleoedd heb eu hail ar gyfer buddsoddi yn y safle a’r ardaloedd o’i gwmpas. Mae’r Ardal Fenter gysylltiedig yn cynnig ystod ehangach o safleoedd datblygu a lleoliadau busnes, sy’n darparu cyfleoedd ar gyfer datblygu cyfleusterau wedi’u teilwra neu fuddsoddi mewn llety sy’n bodoli eisoes.

Mae ein cyfleusterau, sy’n cynnwys gweithrediad a rhedfa sy’n weithredol 24/7 yn ein galluogi i fodloni anghenion nifer o gwmnïau hedfan ac awyrofod a gwasanaethau cysylltiedig, gan gynnwys Cynnal a Chadw British Airways (BAMC), Canolfan Hyfforddi Hedfanaeth Caerdydd a Chanolfan Genedlaethol Hyfforddiant Awyrofod (ICAT) yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro.  

4

Rha

Newyddion Diweddaraf:

Sganiwr teithwyr newydd sy’n defnyddio technoleg ar gyfer y gofod i gyflymu'r broses ddiogelwch mewn meysydd awyr Arrow

Treialu technoleg arloesol o’r DU ym maes awyr Caerdydd...

19

Tac

Newyddion Diweddaraf:

Flybe launches £25 Black Friday sale on 100,000 seats – plus double Avios points Arrow

£25 fares available on 10 routes from Cardiff...

8

Tac

Newyddion Diweddaraf:

Holiday Extras signs major parking technology deal with Cardiff Airport Arrow

A new car park booking platform...

2

Tac

Newyddion Diweddaraf:

New Winter route for Welsh sunseekers from Cardiff Airport Arrow

Fly to Hurghada, Egypt in Winter 2019...

30

Hyd

Newyddion Diweddaraf:

Cardiff Airport wins prestigious industry award at the AOA Annual Awards Arrow

Award for best Airport Campaign at this year's UK Airports Safety Week...

24

Hyd

Newyddion Diweddaraf:

Maes Awyr Caerdydd yn hedfan i’r gaeaf gyda mwy o dwf yn nifer y teithwyr Arrow

Maes Awyr Caerdydd yn hedfan i’r gaeaf gyda mwy o dwf yn nifer y teithwyr...

18

Hyd

Newyddion Diweddaraf:

Ryanair yn lansio amserlen haf 2019 Caerdydd Arrow

Ryanair yn lansio amserlen haf 2019 Caerdydd...

16

Hyd

Newyddion Diweddaraf:

Gwyliau gwych Nadoligaidd o Faes Awyr Caerdydd Arrow

Gwyliau gwych Nadoligaidd o Faes Awyr Caerdydd...

5

Hyd

Newyddion Diweddaraf:

Omega Breaks yn cyhoeddi fod y ‘daith hedfan nos’ unigryw i chwilio am Oleuni’r Gogledd yn ei hôl Arrow

Omega Breaks yn cyhoeddi fod y ‘daith hedfan nos’ unigryw i chwilio am Oleuni’r Gogledd yn ei ...

3

Hyd

Newyddion Diweddaraf:

Maes Awyr Caerdydd yn llwyddo cael twf pellach yn nifer teithwyr a’r EBITDA cadarnhaol cyntaf mewn wyth mlynedd Arrow

  Maes Awyr Caerdydd yn llwyddo cael twf pellach yn nifer teithwyr a’r EBITDA cadarnhaol cyntaf mewn wyth mlynedd Mae Maes Awyr Caerdydd wedi ...

Arrow
Arrow